Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 21, 2012

Bywyd Arth

Mae’n digwydd inni i gyd. Henaint. Ffaelu cerdded mor glou, ffaelu troi mor ystwyth. Yr wythnos ddiwethaf fe sylwodd ymwelwyr â pharc y ddwy arthes yng ngorllewin Asturias fod un ohonyn nhw’n cwympo wrth symud o le i le. Heddiw daeth y milfeddygon a’i harchwilio. Ond does dim byd arbennig yn bod arni; dim ond henaint.

Mae arth brown Cantabria yn gallu cyrraedd oedran o 30ain mlynedd os bydd yn byw yn naturiol wyllt ac yn osgoi damweiniau.  Mae Tola, yr arthes sâl, eisoes wedi cwblhau 23 o’r blynyddoedd hynny. Cafodd ei hachub yn geneues fach gyda’i chwaer Paca ym 1989, yn ardal Tineo. Y gred yw bod y potsiwr a laddodd eu mam wedi cywilyddio wrth feddwl am ladd y rhai bach, a’i fod ef neu arall wedi mynd â nhw i gwfaint gerllaw, a rhoi gwybod i’r awdurdodau drwy alwad ffôn heb roi enw.

Am flynyddoedd wedyn fe’u symudwyd rhwng parciau a chanolfannau anifeiliaid gwyllt, hyd nes bod parc mawr wedi ei agor yn arbennig ar eu cyfer nhw ym 1996. Mae sawl ymgais wedi bod i gael cenhedlaeth newydd drwy ddod ag arth gwryw atyn nhw, ond heb lwyddiant – efallai eu bod nhw eisoes yn rhy hen. Cawson nhw fywyd diogel ond bywyd agos i’r dynolryw ar hyd eu hoes.

Nid felly mae pethau’n cael eu gwneud yn awr: mae’r cenawon arth sydd wedi cael eu hachub yn ddiweddarach i gyd wedi eu dychwelyd i’w cynefin pan oedden nhw’n ddigon hen i fyw ar eu pennau’u hunain.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: