Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 22, 2012

Pigion Papurau Sbaen

Mae’r Goruchaf Lys wedi negyddu hawl ysgolion preifat i addysgu merched a bechgyn ar wahân. Bydd hyn yn golygu bod yn bosib i lywodraethau Andalucia a Cantabria roi’r gorau i dalu grantiau i’r ysgolion hyn. Nid bod llawer i gael beth bynnag – 70 yn Sbaen i gyd.

Bydd etholiadau Gwlad y Basg yn cael eu cynnal yn gynt na’r disgwyl ar Hydref 21ain, flwyddyn a diwrnod ar ôl i ETA roi’r dryll yn y to. Dyma’r etholiadau cymunedol cyntaf lle bydd y chwith independentista wedi cael cymryd rhan, ac ar ôl eu llwyddiant yn yr etholiadau trefol mae’n bosib y gallan nhw elwa. Bydd y sosialwyr yn gobeithio y bydd eu ffordd nhw o ymateb i’r argyfwng economaidd (gwario i greu swyddi yn hytrach na thorri) yn ennill y dydd. Mae ffigyrau diweithdra a chynnyrch Gwlad y Basg yn dda o’u cymharu â chymunedau eraill Sbaen.

Dywed grŵp o economegwyr blaenllaw na fydd Asturias yn cyrraedd y dyled o ddim mwy na 1.5% sy’n cael ei fynnu gan lywodraeth Rajoy eleni. Gellir diwgwyl mwy o ddadlau ac efallai ymgais i gymryd drosodd peth o ddyletswyddau’r gymuned.

Mae diffyg arian cyhoeddus wedi gorfodi cyngor tref Llanes, 20km o fan hyn, i ofyn i fusneswyr lleol redeg dwy ganolfan sy’n esbonio hanes yr ardal. Roedd Canolfan y Môr ac Oriel Peña Tu wedi bod ar gau ers dros flwyddyn.

 

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: