Bydd tymor etholiadau cymunedol arfordir gogledd Sbaen yn ddiddorol iawn eleni. Nid yn unig mae brwydr newydd yng Ngwlad y Basg, ond mae Galicia yn wynebu sawl newid.
Roedd ei llywydd, Alberto Feijoo (PP) eisoes wedi cyhoeddi y byddai’n torri nifer y seddi yn senedd Galicia o 20%. Barn y gwrthbleidiau, ac yn awr sylwebywyr annibynnol, yw nad mesur er mwyn arbed arian yw hyn, fel y mae Feijoo yn honni, ond ymgais i sicrhau mwyafrif tymor hir yn y senedd.
Ond yn awr, fel yn Asturias ddeunaw mis yn ôl, mae plaid adain-dde arall, un newydd a fagwyd yn Galicia, yn bygwth rhwygo pleidlais y PP a mynd â’r mwyafrif hwnnw i ebargofiant. Adwaith Mariano Rajoy, prif weinidog Sbaen sydd hefyd yn enedigol o Galicia, yw dweud wrth Feijoo am ddod â’r etholiadau ymlaen i 21ain Hydref, yr un diwrnod â’r rhai Basg. Efallai ei fod yn meddwl gwneud yr ymgyrch yn un ‘genedlaethol’, a cheisio claddu’r problemau. Ond byddai hynny’n golygu na fyddai digon o amser seneddol ar ôl i basio mesur y torri ar nifer y seddi. Ac felly nid yw’n glir eto a fydd Feijoo yn ymddwyn fel y mae arweinydd ei blaid yn dymuno.
A byddai hefyd yn golygu na fyddai amser gan y senedd newydd i gyhoeddi cyllideb erbyn diwedd y flwyddyn: yn Asturias, canlyniad methu gwneud cyllideb oedd bod y FAC (adain-dde, taleithiol) wedi gorfod galw etholiad arall. Fe gollodd.
Be di dy ebost di? Newydd ddod adre o Madrid a lot o gwestiynau angen ei hateb, ebosti di fi.
By: Arfon Jones on Awst 23, 2012
at 9:09 pm
Be di hanes plaid genedlaetholgar Galicia? Os dwi yn cofio’n iawn colli seddau oedd ei hanes yn etholiadau cenedlaethol Spaen pan ddaru y PP ennill.
By: Plaid Gwersyllt on Awst 23, 2012
at 11:13 pm
Dwi ddim yn siŵr beth sy’n bod arnyn nhw – ond mae nifer eu seddi yn senedd Galaicia wedi bod yn disgyn yn raddol ers 15 mlynedd
By: cathasturias on Awst 24, 2012
at 5:19 pm