Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 24, 2012

Un o’r Goreuon

Mewn tref fach o 6000 o bobl, mewn talaith dlawd lle mae gwaith yn brin, eithriad yw cael gŵr ifanc fel David Mateos. Yn aelod o grŵp gwerin Corquieu ers y dechrau ym 1997, yn adnabyddus fel gyrrwr rali ym mynyddoedd Sbaen, ac yn ŵr busnes: yn berchennog bar cerddoriaeth ar y cei yn Ribadesella.

A nawr, ac yntau’n 32 mlwydd oed, mae fe wedi marw mewn damwain echrydus. Roedd yn profi’i gar gyda’r bwriad o roi fenthyg y cerbyd i gyfaill ar gyfer rali. Ar heol fach fynyddig, fe ffrwydrodd ac aeth ar dân. Wedi ei losgi ymhob ran o’i gorff ag eithrio’i goesau, rhedodd i lawr rhiw tuag at y nant i geisio diffodd y fflammau. Nôl i’r heol a simsanu tua’r pentref. Yn ôl y cymydog a’i welodd gyntaf, roedd e fel rhywbeth mâs o Inferno Dante. Aethpwyd â David i’r ysbyty lleol, ac yna i uned losgiadau mawrion yn Madrid.  Ond roedd hi’n rhy hwyr. Bu farw cyn pen diwrnod.

Mae’n drasiedi i’w deulu, wrth gwrs, ond hefyd i’r cymunedau cerddorol a ralio y bu’n gymaint ran ohonyn nhw. Ac i Ribadesella i gyd.

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: