Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 25, 2012

Prinder Wythgoes

Arwydd arall o’r newid yn yr hinsawdd neu broblem bach dros dro mewn un ardal? Mae siopau pysgod a thai bwyta dwyrain Asturias, yn bennaf oll yn Ribadesella a Llanes, yn cwyno am brinder wythgoes yn rhwydi’r pysgotwyr lleol. Yn lle bod 1000 kilo o’r creaduriaid yn cael eu glanio mewn un diwrnod, ychydig focseidiau neu ddim o gwbl yw hi.

Yn ôl perchennog un o dai bwyta’r ardal, mae rhywun ar un o bob tri o’r byrddau yn dewis wythgoes, ac mae fel arfer yn ei gynnig mewn chwech neu saith plât gwahanol. Yr un hanes yw hi yn y siopau, ymysg pobl leol a’r rhai sydd wedi rhentu tŷ gwyliau.

Dau beth sy’n cael y bai: y treillongau mawr sy’n sgubo popeth i’w rhwydi, a’r diffyg patela, enw lleol ar grancod bychain iawn sy’n faeth i’r wythgoes. A does neb yn gwybod pam mae’r rheiny wedi diflannu. Bydd y pris yn y siop yn codi, felly, a llai o ddewis ar y bwydlenni. A dim pulpo ar ôl ein gêm ceilys nesaf!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: