Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 26, 2012

Peryglu Gwair Neifion

Os buest ti erioed ar dy wyliau yn Ibiza, neu un arall o ynysoedd y Baleares, mae’n bosib dy fod ti wedi gweld ar y traeth rhywbeth oedd yn edrych fel pelen o gortyn. A phetaet ti wedi plymio i ddyfroedd clir y moroedd cyfagos, byddet ti wedi synnu at y gwymon sy’n gorchuddio llawr y môr. Posidonia oceanica yw e, ac fe’i ddisgrifwyd yn fanwl gan Linnaeus bron i 300 mlynedd yn ôl. Môr y Canoldir yw ei gynefin, ac mae’n cael ei adnabod fel gwair Neifion. Mae’r peli’n dod o’r gwymon.

Planhigyn hynod yw e: mae’n blodeuo, ond hefyd yn ehangu drwy clonau. Yn 2006 fe gyhoeddwyd bod un darn, i’r de o Ibiza, yn 8km o hyd ac o leiaf 100,000 mlwydd oed.

Ond mae e mewn perygl. Eisoes mae llawer llai o hectarau, a hynny oherwydd llygredd. Ac yn awr mae naturiaethwyr y Baleares yn poeni am newydd-ddyfodiad arall sy’n gallu distrywio’r planhigion mewn munudau. Llongau pleser y crachach – iots maen nhw’n eu galw nhw, ond does na ddim hwyliau’n perthyn iddyn nhw. Mae’r rhai mwyaf – dros 35m – ag angor mwy hefyd. A phan fydd hwnnw’n cael ei dowlu i’r gwaelod mae’n mynd drwy wair Neifion fel pladur drwy wair y ddôl.

Bu’r grŵp diogelu’r moroedd, Oceana, drwy’r haf yn cwyno am y llongau hyn yn unigol, wrth eu henwau, pan fydden nhw’n angori mewn dŵr bas uwchben y posidonia. 22 o longau, hyd yn hyn.  Ond yn ôl llywodraeth y Baleares does gyda nhw ddim digon ogychod i galw golwg ar yr holl longau sy’n treulio rhan o’r haf yn eu dyfroedd. Yr unig beth maen nhw yn addo gwneud yw ehangu gwybodaeth am y posidonia ymysg y gymuned forwrol, a sefydlu cyfundrefn o drwyddedu a chosb am angori mewn llefydd o dan fygythiad.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: