Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 30, 2012

Achub neu Fenthyg

Ychydig o nodiadau fydd cofnod heddiw: yn gymaint imi fy hun ag i neb arall. Mae cadw golwg ar broblemau ariannol Sbaen a’r cymunedau awtonomig yn gofyn darllen manwl beunyddiol. Rhywbeth fydda’i ddim yn gwneud, felly dyma gais ar esbonio beth yw’r sefyllfa ar y funud:

Mae’r prif weinidog, Mariano Rajoy, (PP) yn dal i fynnu na fydd Sbaen yn gofyn i Ewrop ei hachub ‘hyd nes fyddan nhw’n gwybod beth fydd yr amodau’. Gwell ganddo’r gair ‘benthyg’. Ar ôl cyfarfod â phrif weinidog Ffrainc, François Hollande, yn Madrid y prynhawn yma fe bwysleisiodd fod y ddau yn ymladd i amddiffyn yr €, a’i fod ei fryd ef ar sicrhau fframwaith unedig i fanciau parth yr ewro.  (A allai ei wneud yn haws i Sbaen i ‘fenthyg’ arian.)

Ond mae rhai o gymunedau mwyaf, a mwyaf pwysig, Sbaen, yn gofyn iddo fe am arian i’w hachub nhw. Mae Catalunya eisoes wedi gofyn am €5bn, ac yn awr mae Valencia, sydd llawer llai, yn mofyn €4.5bn. Mae Murcia, cymuned llai fyth, yn debyg o fod angen rhai cannoedd o €, ac mae disgwyl y bydd Castilla-La Mancha hefyd yn gorfod cardota.

Yn Catalunya bydd y tanau gwleidyddol yn cael eu cynnau; nid y PP sy’n rheoli yno, ond CiU, cenedlaetholwyr adain-dde-canol. Ac wedi derbyn y €5bn, os na fydd Catalunya yn cyrraedd nôd llywodraeth Rajoy o ddyled o 1.5% eleni, fe fyddai’r ‘dynion mewn du’, swyddogion trysorlys Madrid, yn cymryd drosodd yr awennau.  Mae pobl Catalunya eisoes yn teimlo eu bod nhw’n cyfrannu gormod i helpu taleithiau tlotach, ac mae gen i syniad na fydden nhw hapus o gwbl petai hynny’n digwydd.

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: