Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 3, 2012

Dechrau Ymgyrch Etholiadol

Yn ôl at yr etholiadau yr awn ni heddiw. Bydd pobl Gwlad y Basg a Galicia yn cael pleidleisio ym mhen saith wythnos, ar yr 21ain o Hydref, ac mae’r ymryson geiriol wedi dechrau. Yn Galicia maen nhw wedi derbyn addewid sy’n fwy na hynny hefyd: cyllideb ac amserlen y trên cyflym iawn ar gost o €1,745,000,000. Dywed prif weinidog Sbaen, Mariano Rajoy (PP) y bydd y lein wedi ei gorffen erbyn 2018.

Y PP sy’n rhedeg Galicia ar hyn o bryd, ac mae ganddyn nhw obaith o ddal eu lle, gyda neu heb (lwgr)wobrwyon o’r math yma. (Ydym, rydym ni yn Asturias yn cenfigennu tuag at ein cymdogion ochr draw’r Eo.) Mae Rajoy ei hunan yn enedigol o’r gymuned, ac er gwaethaf ymdrechion plaid daleithiol newydd fe fyddai’n syndod iddo pe bai ei fois ef yn colli.

Mae Gwlad y Basg yn hollol wahanol. Brwydr rhwng y sosialwyr a dwy adain y mudiad cenedlaetholgar fydd hi. Pawb ar hyn o bryd yn gwrthod siarad am glymbleidio, ond efallai taw dyna fydd y canlyniad yn mynnu. Statws Gwlad y Basg felly, yr economi – a beth sy’n digwydd i garcharorion cyn-ETA, yn enwedig y rhai sydd yn dost iawn ac a fyddai, petaen nhw’n garcharorion ‘cyffredin’ yn cael mynd adre i farw.  Mae llywodraeth Rajoy wedi penderfynu caniatau i un ohonyn nhw gael ei drin fel hyn, ac yn ôl y sôn roedd na uffern o ddadl am y peth yn eu pwyllgor gwaith (Sbeinig) nhw y bore ‘ma.

Ond mae cynrychiolydd Mariano ymysg y Basgwyr, y dyn sy’n gobeithio dod yn lehendakari, wedi gwneud ei farn ef yn hollol glir: nid oes ganddo ots o gwbl beth yw sefyllfa y carcharorion sâl, a dylen nhw fod wedi meddwl am hyn (?) cyn ymuno ag ETA. Dyddiau diddorol o’n blaenau ni.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: