Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 6, 2012

Hela Percebes

Mae’n bownd o ddigwydd. Po fwyaf o bobl sydd heb waith, ac heb arian, po fwyaf y rhai sy’n ceisio ennill arian mewn ffordd arall, yn aml iawn y tu fâs i’r gyfraith. Ac yn aml hefyd, mewn ardal sydd yn cyfuno mynydd a môr, mae’r byd naturiol yn dioddef. Yr wythnos ddiwethaf bu farw arth yng ngorllewin Asturias ar ôl cael ei faglu gan botsiwr; yr wythnos hon y percebes sy’n cael cam.

Pollicipes cornucopiae, math o gragen long, yw percebes, ac mae pobl fan hyn yn eu hystyried yn ddanteithion. (Dyw’r gŵr ddim; mae e’n dweud eu ei fod fel bwyta darn o rwber sydd wedi bod yn y môr.)  Dyw tymor y percebes ddim yn dechrau tan fis Hydref, er mwyn eu diogelu pan fyddan nhw’n cenhedlu, ond yn barod mae tri photsiwr wedi eu dal gyda 60kg ohonyn nhw. Nid ar chwarae bach mae eu cymryd nhw, chwaith, achos mae eu cynefin ar y creigiau sydd ond yn sych pan fydd y trai ar ei waelod, a fel arfer wrth droed clogwyn.

Y creigiau isel lle rwyt yn gweld yn dŵr yn diferu nôl i’r môr? Fan’na maen nhw’n byw. Ond efallai bod y tywydd tawel rydym ni wedi mwynhau yn ddiweddar wedi ei gwneud yn haws i’r pysgotwyr anghyfreithlon.

Mae video bach i’w weld fan hyn      sy’n dangos dynion yn casglu’r percebes.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: