Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 8, 2012

O’r Ardd: Sychder

Dyw hi ddim yn broblem yr ydym ni wedi bod yn gyfarwydd â hi hyd yn hyn. Fel arfer, mae tywydd Asturias yn llaith, os nad yn wlyb siwps. Ond eleni, haf hirfelyn tesog oedd y drefn, a joio ar y traeth yn lle poeni am yr ardd. Mae’r canlyniadau i’w gweld yn awr.

Yn y rhan uchaf, mae gyda ni danc 1000 litr sy’n dal dŵr y to – dim ond to’r garej hyd yn hyn, ond mae cynlluniau ar y gweill i wneud rhagor. Ac os fydd yr haf yn arwydd o newid hinsawdd, ac nid haf eithriadol, fe fydd yn rhaid inni ddechrau arni. Mae’r tomatos, a’r tai gwydr, a’r planhigion ifainc, yn derbyn dŵr o’r tanc am gyfnod byr bob dydd, drwy rwydwaith o bibelli tenau â thyllau mân ynddyn nhw fel bod y dŵr yn diferu yn hytrach nac yn llifo. Y disgwyl yw defnyddio 1000l mewn tair wythnos. Ac o’r blaen ni fu’n rhaid gofyn y cwestiwn: beth os na fydd yn bwrw glaw o fewn tair wythnos?

Dyw’r planhigion yn y rhan isaf, sy’n bridd trymach, ddim yn cael dŵr yn rheolaidd. Ond mae rhai, y ffa a’r corbwmpen er enghraifft, wedi gorfod cael peth eleni. I wneud pethau’n anos, yn ystod y tywydd twym mae’r gwynt wedi bod yn chwythu o’r gogledd-ddwyrain, sydd wastod yn chwarter sych boed yn oer neu’r dwym.

A’r blodau? Wel mae’r rhai sydd mewn potiau’n cael – y dŵr o olchi llysiau fel arfer. Ond mae’r gweddill wedi gorfod byw gystal ag y gallen nhw. Roeddem ni wedi dewis pethau fel y phormiwm, agapantws ac abutilon am nad oes angen dwrhau, ac mae’r rheiny’n iawn. Y rhai bach blynyddol sydd wedi dioddef – ac wedi diflannu – ond y gobaith yw y dôn nhw nôl flwyddyn nesaf.

Does dim cymaint o broblem gyda’r coed, yn un peth oherwydd eu gwreiddiau ond yn ail am nad oes llawer o ffrwyth eleni, a hynny ar ôl y gwanwyn caled. Ffermwyr a garddwyr, te. Byth yn hapus ar y tywydd.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: