Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 10, 2012

Pris v Diogelwch

Un o’r pethau sydd wedi ymweld â’r teulu yn haws dros y ddeng mlynedd ddiwethaf yw’r cwmniau awyr ‘pris isel’, Ryanair ac Easyjet. Mae un yn hedfan i Santander a’r llall i faes awyr Asturias, ac mae’n tŷ ni reit yn y canol. Rwy’n ymwybodol na fydd y sefyllfa hon yn parhau am byth: pan brynom ni’r tŷ roeddem ni’n gorfod gyrru ddwywaith y pellter i Bilbao a thalu prisiau Iberia. A nawr rydym yn dewis cymryd y llong pan fydd amser gyda ni; mae’n brofiad dymunol os yn ddrutach.

Dros y pythefnos diwethaf mae nifer o straeon wedi ymddangos yng nghyfryngau Sbaen am Ryanair yn benodol, digwyddiadau sydd wedi achosi poendod, ac mewn un achos, salwch, i’r teithwyr. Cafwyd sawl enghraifft o beilotiaid Ryanair yn dweud wrth rheolwyr trafnidiaeth fod yn ‘rhaid iddyn nhw lanio ar unwaith, am eu bod nhw’n rhedeg mâs o danwydd’. A hynny pan oedd tair neu bedair awyren arall o’u blaenau nhw yn cylchu oherwydd problemau’r tywydd.

A dridiau nôl daeth stori am awyren arall o eiddo’r cwmni yn gorfod troi nôl oherwydd problemau gyda’r pwysedd yn y cabin. Roedd teithwyr yn teimlo fel chwydu, ambell un wedi cael gwaedu o’r trwyn neu’r llygaid, a nifer yn cael dolur yn eu clustiau.

Heddiw fe gyhoeddodd Gweinidog Datblygiad Sbaen, Ana Pastor, ei bod yn ceisio rheolau llymach a chosb mwy i gwmniau awyr sy’n achosi problemau ym meysydd awyr yr wlad. Ni chlywyd yr enw Ryanair ganddi, ond o’r disgrifiadau rhoddodd hi o’r digwyddiadau, pur debyg ei bod yn anelu atyn nhw.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: