Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 11, 2012

Gorymdaith Catalwnia

Dwy filiwn o bobl yn llenwi canol dinas Barcelona.

Heddiw yw diwrnod gŵyl Catalwnia (roedd un Asturias yr wythnos ddiwethaf), ac mae’r seremonia arferol a gafwyd y bore ‘ma wedi cael ei luchio o’r neilltu gan faint a brwdfrydedd yr orymdaith heno: gorymdaith sydd yn galw am annibyniaeth. Dair awr ar ôl i ben y gwrthdystiad ymadael, roedd y bobl yn y cefn yn dal i sefyll yn eu hunfan.

Doedd llywydd llywodraeth Catalwnia, Artur Mas, ddim yno yn gorfforol, ond roedd e eisoes wedi dweud y byddai’r ‘ffordd ar agor i annibyniaeth os na fyddai llywodraeth Sbaen yn cytuno i adael i Catalwnia gasglu a gwario ei threthi ei hunan. Y trethi i gyd, nid rhyw dreth bach ar ben y cwbl. Ac mae si nawr y bydd Mas yn gwneud datganiad am yr orymdaith beth cyntaf bore ‘fory. (Ac roedd ei wraig e yno.) Rhaid nodi hefyd fod nifer o’r rhai oedd yn siarad ar y teledu wrth orymdeithio yn mynd yn bellach na Mas: dim ots gyda nhw am gytundeb y trethi, roedden nhw eisiau annibyniaeth, terfyn.

Roedd pob plaid wleidyddol yno, heblaw am y PP (adain dde, yn llywodraethu ar lefel Sbeinig). Roedd cyn-lywydd Catalwnia, Jordi Pujol, yno. Ac fe gafwyd neges fideo gan Pep Guardiola, newydd ymddeol fel hyfforddwr Barça. O, a mae llefarydd yr UE ym Mrwsel wedi dweud y byddai’n rhaid i wladwriaeth newydd Catalwnia ddechrau o’r dechrau a gofyn os bydd am ddod yn aelod o’r undeb. Sy’n profi o leiaf eu bod nhw wedi meddwl am y peth.

Mwy pan ddaw e.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: