Dywed llywydd Catalwnia fod gorymdaith enfawr neithiwr wedi profi bod yr ymgyrch i ennill annibyniaeth wedi newid gêr; mae Artur Mas yn rhagweld creu sefydliadau gwladwriaethol Catalan ‘law yn llaw’ â thystiolaeth boblogaidd o ewyllys y bobl.
Mae’r ffordd ar agor i Sbaen dderbyn arian achub gan Ewrop, ac os yw Mariano Rajoy y prif weinidog yn oedi cyn gofyn amdano, dim ond oherwydd etholiadau Galicia a Gwlad y Basg y mis nesaf mae hynny.
Mae gweinidog trysorlys Sbaen wedi dweud nad oed dim digon o arian ar ôl i sicrhau taliadau cymdeithasol – fel pensiynau. Echdoe fe ddwedodd ei fos eu bod nhw’n ddiogel.
Mae’r lehendakari, Patxi Lopez o sosialwyr Gwlad y Basg, yn dechrau ei ymgyrch etholiadol drwy gynnig codi gradd uchaf y dreth incwm i 60%, ar gyfer y bobl hynny sy’n ennill dros €120,000 y flwyddyn.
Mae mab yng ngyfraith brenin Sbaen yn ymladd fel y diawl (yn y llys) i gael y barnwr i adael materion ariannol ei gyn-gwmniau a busnesau naill llaw. Mae eisoes yn wynebu cyhuddiadau o dwyll ariannol ynglŷn â Sefydliad Noos.
Ond fan hyn yn nwyrain Asturias, y glaw yw’r prif bennawd. Do, fe gawsom ni rhyw ddiferion y diwrnod o’r blaen, ond heddiw mae wedi bod yn bwrw glaw ers codi’r wawr. Ac am y tro cyntaf mewn chwech wythnos. Mae’r planhigion yn edrych yn lasach, hyd yn oed y gwair. Fydd ddim rhaid dwrhau heno!
Wyddwn i ddim bod pennu lefel treth incwm wedi ei ddatganoli i Gymuned Ymreolaethol GyB. Beth ydy’r rhagolygon yno – fydd Lopez yn dal mewn grym.
By: Brenhiniwr twp on Medi 13, 2012
at 10:30 am
Dyna gwestiwn mwyaf diddorol yr etholiad! Digon tebyg y caiff PNV ac EH-Bildu gyda’i gilydd fwy o seddi na’r PSE, ond a fydden nhw’n clymbleidio neu weithio ynghŷd mewn rhyw ffordd?
By: cathasturias on Medi 13, 2012
at 12:09 pm