Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 16, 2012

Catalwnia: Barn y Sbaenwyr

Mae’r ffordd yn glir, o leiaf ym marn y rhan fwyaf o ddigon o Sbaenwyr y tu fâs i Catalwnia.  Dengys arolwg barn y byddai 80% ohonyn nhw o blaid annibyniaeth i Catalwnia ar yr amodau hyn: fod mwyafrif llethol o’r Catalaniaid yn pleidleisio drosti mewn refferendwm, a bod yr holl beth yn cael ei drefnu’n heddychlon rhwng awdurdodau Sbaen a rhai Catalwnia. Ac maen nhw’n dweud hyn er nad ydyn nhw ddim (2 ran o 3) yn cefnogi’r datblygiad: maen nhw’n credu y byddai Sbaen, a hwythau, ar eu colled.

A nawr rydym ni ‘n gwybod i sicrwydd (rhwybeth na fu unrhyw amheuaeth yn ei gylch ef, mewn gwirionedd) y bydd y PSOE, a’r PP. yn brwydro yn erbyn chwalu undod Sbaen. Mae ei harweinydd Alfredo Rubalcaba hyd yn oed wedi dewis anwybyddu cynnig o’r blaid sosialaidd yn Catalwnia y dylai’r PSOE ‘gymryd yr awennau’ yn y ddadl ynglŷn â ffederaliaeth.

Ar y llaw arall, mae Arturo Mas, llywydd Catalwnia, wedi llwyddo i ennill cefnogaeth busnes – o leiaf ar gyfer ei syniad o gytundeb trethi, fyddai’n gweld trethi a dalwyd yn Catalwnia yn aros yno. dydyn nhw ddim wedi mynd mor bell â chefnogi annibyniaeth, a dylid nodi bod y diwydiannau mawr ac aml-wladol, yn ôl y disgwyl, wedi bod yn gyndyn i’w gefnogi o gwbl.

Fodd bynnag, mae cyfryngau Catalwnia a Sbaen yn awr yn llawn o’r pwnc, felly o leiaf mae’n cael ei drafod.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: