Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 17, 2012

Hela’r Baedd

Mae’r baedd gwyllt wedi bod yn ymweld â ni eto. Y tro yma ni wnaeth unrhyw ddifrod i blanhigion. Mae’n rhaid bod rhywbeth wedi hala ofn arno, achos daeth i fewn (lan banc serth) a gadael mewn lle arall ond yn agos iawn.

Roedd e wedi llwyddo i wthio’r amddiffynfa (uchod) o’r neilltu: mae’r peth yn ôl yn awr ac yn gryfach. Ond yn amlwg ni fydd waliau cartref yn ddigon i’w rwystro. Mae cyfaill inni wedi ei weld yn oriau mân y bore yn crwydro heolydd y pentref (wnewn ni ddim gofyn beth oedd y cyfaill yn ei wneud), weithiau ar ei ben ei hun, weithiau yn deulu bach. Bant â ni felly i brynu rhwydi gwifrau.

Mae’r parth lle ddechreuodd y baedd ddod i fewn yn awr yn ddiogel (onibai ei fod yn gallu neidio metr a hanner). Ond roedd ymweliad neithiwr mewn lle gwahanol, sy’n ffinio â llwybr. Bydd angen rholen arall o rwydi i wneud hynny.

Daeth helwyr i’r pentref bythefnos yn ôl ond heb gael dim. Mae’r tymor hela newydd ddechrau, a dynion y drylliau yn cwyno nad oes dim digon o faeddiaid. Lladdwyd 140 yn Asturias benwythnos cynta’r tymor, 50 yn llai na’r flwyddyn ddiwethaf. Ond maen nhw yno! Ac mae’n edrych imi fel petaen nhw’n dewis symud o gwmpas y pentrefi – lle mae ‘na ddigon o ddarnau bach gwag a llai o debygrwydd o gwrdd â’r helwyr yn lle cadw at wastadeddau’r tir agored.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: