Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 18, 2012

Santiago Carrillo

Mae un o sêr bywyd Sbaen yn ystod yr ugeinfed ganrif wedi marw yn 97 oed. Roedd Santiago Carrillo, a anwyd yn Gijón, Asturias, yn rhan o bob newid o wrthryfel Asturias yn 1934 (roedd e’n un o drefnwyr beth oedd i fod yn wrthryfel cenedlaethol: yn y pen draw, dim ond yn Asturias y cafwyd unrhyw lwyddiant) hyd at y Trawsnewid ar ôl marwolaeth yr unben Franco.

Fe ddechreuodd yn sosialydd, ond fel comiwnydd y bydd yn cael ei gofio. Daeth yn ysgrifennydd cyffredinol  y PCE (Plaid Comiwnyddol Sbaen) ym 1959, gan gymryd drosodd yr awennau oddiwrth Dolores Ibárruri, La Pasionaria, (a fu wedyn yn aelod seneddol dros Asturias). Bryd hynny roedd e fel miliynau o werinaethwyr eraill yn byw fel alltud yn Ffrainc, ac yn arwain ei blaid o Paris.

Ar ôl i Franco farw, daeth e’n ôl i Sbaen yn ddirgel, a byw yma am flwyddyn cyn cynnal cyfarfod i’r wasg oedd yn herio’r llywodraeth dros-dro newydd i dderbyn y comiwnyddion fel plaid gyfreithlon. Fe gymrodd flwyddyn o drafodaethau cudd, ond yn y diwedd fe gafodd ei ffordd, ac fe gafodd ei blaid sefyll yn yr etholiadau ar ddechrau’r ddemocratiaeth newydd.

Hynod fu’r teyrngedau heddiw, o bob rhan o’r byd gwleidyddol. Mae ei ‘elynion’ politicaidd yn ei gofio am ei ran yn sicrhau y gallai’r Trawsnewid hwnnw ddwyn ffrwyth ddemocrataidd, a’r ymdrech a’r gallu meddwl oedd yn rhan o hynny.

A bydd yn cael ei gofio hefyd am ei ddewder, y diwrnod hwnnw ym 1982, pan ymosododd grŵp o filwyr ar senedd Sbaen gyda’r bwriad o ddymchwel y llywodraeth. Fe orchmynodd yr arweinydd i bawb i orwedd ar y llawr, ac fe wnaeth yr aelodau seneddol i gyd – heblaw am Santiago Carrillo. Heddwch i’w lwch.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: