Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 19, 2012

Pigion Economaidd

Mae gobaith y bydd gan Asturias ei chyllideb ei hun y flwyddyn yma – ac y bydd honno rhyw 10% yn llai na’r un ddiwethaf yn 2011. Ers hynny, oherwydd methiant llywodraeth Foro Asturias a’i harweinydd Cascos, mae’r gwario wedi mynd yn ei flaen heb fframwaith gyfreithiol. Mae’n debyg y bydd y swm i’w wario tua €3.7bn, a hynny ar gyfer 1 miliwn o bobl.

Yn y cyfamser mae trigolion sâl Asturias yn gorfod talu €4m yn fwy bob mis ar gyfartaledd oherwydd y gyfundrefn newydd o dalu rhan o’r presgriptiwn meddygol. Ac yn barod ar y gweill mae cynlluniau i orfodi gweithwyr y wasanaeth iechyd i weithio mwy o oriau o fewn diwrnod.

Mae bron i chwe chant o athrawon heb waith wedi gweld llygedyn o obaith heddiw gyda’r newyddion y bydd llywodraeth Asturias yn cyflogi 589 yn fwy o athrawon dros dro – hynny yw, tan ddiwedd y flwyddyn ysgol. Y broblem yw nad oes dim mwy o lefydd parhaol fydd yn talu pensiwn.

Cododd elw Inditex, y cwmni enfawr sydd berchen Zara, Pull & Bear, Massimo Dutti ac eraill,  bron i dreian oherwydd ymestyn ei siopau i Asia a’r Amerig. Bron i €1bn oedd dros ben, ar ôl gwerthiannau o €7,239bn.

Mae Talgo, y cwmni sy’n cynhyrchu’r trenau cyflym iawn, yn datgelu un newydd yfory. Bydd yr Avril yn teithio 380km/awr ac bydd ganddo le i 600 o deithwyr. Dyna sy’n newydd: mwy o deithwyr nag yn y trenau presennol, ac felly, efallai, prisiau is. (Ond hefyd llai o le i symud o gwmpas.)


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: