Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 20, 2012

Llwybr Catalwnia

Doedd hi ddim yn syndod. Ar ôl dyddiau o aros, mae llywydd Catalwnia, Artur Mas, wedi cyfarfod â phrif weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, i drafod ei gynnig o gytundeb trethi, fyddai’n golygu bod holl arian y trethi a gesglid yn Catalwnia yn cael ei wario gan lywodraeth cymuned awtonomaidd Catalwnia. Na, oedd ateb cwta Rajoy.

Adwaith Mas: mae’n bryd inni roi’r gorau i daro’n pennau yn erbyn y wal. Rydym ni wedi colli cyfle hanesyddol i wella’r berthynas rhwng Sbaen a Chatalwnia.

Aros eto sydd rhaid yn awr i weld beth fydd e’n gwneud nesaf. Y gred yw y bydd yn galw etholiadau brys, o bosib ym mis Tachwedd (fis ar ôl y rhai yng Ngwlad y Basg a Galicia). Doedd e ddim yn barod i fynd i fanylion am hyn heddiw achos mae ‘na ddadl gyffredinol yn senedd Catalwnia’r wythnos nesaf. Ond roedd yn tanlinellu bod thaid cymryd i ystyriaeth y miliwn a hanner o bobl a orymdeithiodd drwy Barcelona dros annibyniaeth. Ac fe gyfeiriodd at refferendwm yr Alban, drwy ddweud bod y DU wrth gytuno i ganiatau’r refferendwm yno wedi dangos ‘democratiaeth gyda D fras’.

Beth sy’n ddiddorol hefyd yw fel mae naws (peth) o’r gohebu wedi newid. Bu’n rhaid i TVE ymddiheuro am y ffordd y triniwyd yr orymdaith, ac roedd El País heddiw mewn un paragraff yn cyfeirio at Rajoy fel ‘llywydd y llywodraeth ganolog’. (Yn dechnegol fe yw llywydd cyngor y gweinidogion; ond fel arfer mae’n haws yn Gymraeg sôn amdano fel prif weinidog).

Efallai bod Rajoy wedi cael diwrnod da yn ariannol (cyfradd llog tramor wedi disgyn), ond mae materion o fewn y penrhyn Iberaidd yn siŵr o achosi ambell i ben tost iddo.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: