Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 21, 2012

Traeth a Lluarth a Chegin

Y bore ‘ma cerddais i lawr ar lan yr afon i draeth y Guadamia. Roedd y môr ar drai, bron ar ei lleiaf; yr afon ar ei chwrs traethol weithiau’n diflannu o dan y tywod; y tywod ei hun wedi crychu gan symudiadau’r dŵr.

Dim golwg fan hyn o’r tri chan mil o ymdrochwyr fu’n ymweld â thraethau ardal Ribadesella dros yr haf! Y gwirionedd yw nad oes neb yn cyfri’r ymwelwyr fan hyn: dim ond ar y traethau mawr yn nhref Ribadesella ac yn Vega mae gwylwyr diogelwch i gael – a wyddwn ddim tan eleni bod cyfri’r bobl yn rhan o’u gwaith nhw. Ond o gyfri pythefnos diwethaf Gorffennaf (roedd y pythefnos cyntaf yn niwlog ac yn wlyb) a mis Awst i gyd buaswn yn amcangyfrif bod 3-4,000 wedi mwynhau traeth bach ‘gwyllt’.

Mae dŵr y môr wedi oeri yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ond roedd hi’n dal yn hen ddigon twym i nofio – i rywun o’r gogledd, fel maen nhw’n ein galw ni. Ond egwyl fach oedd y traeth yng nghanol diwrnod o gynaeafu a phrosesu llysiau a ffrwythau. Y peth nesaf fydd cyfri beth sydd gyda fi – mae’n siŵr y byddai’r gwylwyr diogelwch wedi mynnu fy mod yn gwneud hynny wrth fynd ymlaen, a bydd rhaid imi gofio hynny’r flwyddyn nesaf.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: