Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 25, 2012

Wel Dyna Beth yw Teithio

A dyma fi nôl. Y ddau beth a’n cyd-darodd a gwnaeth yn amhosib imi ysgrifennu cofnodion oedd anaf i’m garddwrn a streic y cwmni llongau. Roeddem ni wedi bwriadu hwylio i Portsmouth ddydd Sadwrn, ond yn hwyr nos Wener dyma neges yn dod gan Brittany Ferries yn dweud na fyddai’r llong yn gadael Santander, na dim un llong o’u morlu yn symud, am wythnos gron. Roedd yn rhaid imi fod yn Llundain fore heddiw, dydd Mawrth. Buom ni tan yr oriau mân yn penderfynu rhwng gyrru’r holl ffordd i’r Sianel a mynd y rhan fwyaf o’r ffordd mewn llong o eiddo gwmni arall. Ac yn y diwedd dyma a wnaethom ni. Ond doeddwn i ddim yn gallu tapo cofnodion mewn i sgrîn fechan yn ystod y daith oherwydd y poen!

Byrddio’r ‘Norman Asturias’ ym mhorthladd Gijon brynhawn Sul, ac oddi yno 15 awr i St Nazaire yn aber afon Loire. Dyw’r llong, na’r bwyty, ddim hanner mor moethus â ‘Pont Aven’ y Llydawyr, ond roedd yn lân ac yn dwt ac fe laniodd ar amser, er gwaetha’r gwynt a’r glaw oedd wedi cyrraedd o’r Iwerydd.

Gyrru drwy’r tywyllwch (i ddechrau) a’r glaw i gyfeiriad arfordir gogledd Ffrainc a phorthladd Le Havre. Digon o amser gyda ni! Ond och, pan gyrhaeddom ni Pont de Normandie, un o’r pontydd uchel hir sydd mor nodweddiadol o grands projets y Ffrancod, roedd dwy res hir o gerbydau o’n blaenau – ac oherwydd fod y bont yn codi tua’r canol nid oedd yn bosib gweld paham. Awr gron buom ni ar y bont, yn siglo yn y gwynt, heb wybod beth oedd yn digwydd. Wedyn dechreuodd popeth symud eto, ac fe welsom ni garafan oedd wedi cwympo ar ei ochr – carafan bach, nid lori enfawr. Rywsut roedd car wedi cael peth ddifrod hefyd – oedd y carafan wedi cwympo arno, neu’r car wedi methu osgoi bwrw’r llall, dim syniad.

A mlaen i borthladd Le Havre – un o’r hen borthladdoedd hynny sydd yng nghanol y dre. Rwy’n credu yr awn ni nôl ffordd hyn rywbryd achos roedd yn edrych yn dref ddiddorol – a hefyd heb y rhuthr oedd arnom ni’r tro yma, byddem ni’n gallu hala peth amser yn Llydaw ar y ffordd i Asturias. Roedd y gwynt yr un mor gryf ond, ys dwedodd y ferch wrth y gât: ‘on part‘ (ŷn ni’n mynd), ac ar ôl 5 awr o siglo a rhuglo roeddem ni yn Portsmouth. Ac yn ysu am noson dda o gwsg.


Responses

  1. Gobeithio fod y garddwn yn well!

    • Ydy diolch – wedi ei throi hi’n wael yr oeddwn i, felly roedd deuddydd o orffwys (h.y. dim garddio) yn ddigon i’w gwella


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: