Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 26, 2012

Cefndir Catalan

Dri chan mlynedd yn ôl roedd Barcelona a’r Catalaniaid yn ymladd am eu dyfodol. Roedd Rhyfel Olyniaeth Sbaen yn tynnu tua’i derfyn; roedd Catalwnia a thiriogaethau dwyrain Sbaen yn cefnogi teulu brenhinol Awstria, yr Habsbwrg, am fod eu gwrthwynebydd, Philippe o deulu Borboniaid Ffrainc, eisoes wedi dangos ei fod am ddileu hynny o ymreolaeth oedd ar ôl ganddyn nhw. Roedd coronau Aragon (Catalwnia) a Castile (Madrid a chanol Sbaen) wedi eu huno ers canrifoedd, ond hyd at y pwynt yma, roedd hen ddeddfau traddodiadol wedi cael llonydd.

Yn awr, wrth i freniniaethau ar draws Ewrop geisio canoli eu pwerau, roedd y Catalaniaid yn ofni colli rhyddid, sefydliadau ac iaith. Ac ar ôl diwedd gwarchae Barcelona ym 1714, dyna ddigwyddodd: gwaharddwyd yr iaith, chwalwyd y sefydliadau, collwyd y rhyddid. Y digwyddiadau hynny sy’n cael eu coffau yn y Diada, diwrnod cenedlaethol Catalwnia, yr 11eg o Fedi.

Eleni, prif ddigwyddiad y Diada oedd yr orymdaith enfawr – miliwn a hanner o bobl – a gerddodd drwy strydoedd Barcelona i hawlio rhyddid eto. Mae llywodraeth Catalwnia wedi ceisio trafod pwerau economaidd a threthol gyda llywodraeth Sbaen, ond doedd rheiny ddim yn barod i wrando. Ym mis Tachwedd felly, bydd etholiad brys yn cael ei gynnal, ac wedi hynny refferendwm ar annibyniaeth ‘gyda neu heb caniatad llywodraeth Sbaen’, yn ôl llywydd Catalwnia Artur Mas. Yn barod, mae un eithafwr o blith lluoedd arfog Sbaen wedi gwneud yn glir lle maen nhw’n sefyll.

Ac mae brenin Sbaen hefyd wedi galw ar i holl bobl Sbaen i sefyll gyda’i gilydd yn lle dadlau ynglŷn â ‘sut i drefnu cymdeithas’. Teg nodi taw un o hen deulu’r Borboniaid canoleiddiol yw Juan Carlos yntau, a nerth mewn undod ar lefel Sbeinig yw ei neges ef fel ei ragflaenydd.

Ychydig o nodiadau yn unig yw hyn: ond mae gyda fi syniad y bydda’i’n cyffwrdd â materion Catalanaidd eto cyn hir.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: