Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 28, 2012

Ar Lan yr Afon

Heddiw rwyf i am gymryd hoe fach o broblemau ariannol a gwleidyddol y penrhyn Iberaidd a chyhoeddi cwpwl o luniau i ddangos fel mae 6 wythnos o sychder wedi trawsnewid afon Guadamía. Mae’n afon fechan gwta, dim ond 7km o hyd, ond roedd hi’n ddigon i bweru saith o felinau hyd at 60au’r ganrif ddiwethaf. Fel hyn mae’n edrych fel arfer, islaw melin Tosquila:

Ond ganol y mis fel hyn yr oedd:

Fyddai ddim llawer o wenith yn cael ei falu o hwnnw! Ac nid hynny’n unig – mae cymaint o lystyfiant yng ngwely’r afon, pan ddaw’r glaw trwm yn ôl bydd y planhigion yn amharu ar red yr afon.

Meddwl yr oeddwn am ynni cynaliadwy, pethau fel yr haul a’r gwynt a’r môr, ac fel y byddem ni i gyd yn hoffi gweld mwy o ddefnydd arnyn nhw, yn enwedig pe bai’n rhatach. Ond dyma’r broblem: mae amserlen natur yn afreolaidd, ac yn wahanol iawn i’n hamserlen bywyd modern ni, yn ein cartrefi ac wrth ein gwaith. Beth fydd angen yw modd ystwytho toreth a phrinder natur wrth storio dŵr neu storio’r trydan a gynhyrchir. A dwi ddim yn gweld hynny’n dod yn rhad iawn.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: