Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 30, 2012

Annibyniaeth y Basgwyr

Wedi hala sawl cofnod ar Gatalwnia, hen bryd inni droi’n golwg ar Wlad y Basg unwaith eto – wedi’r cyfan dim ond tair wythnos sydd i fynd tan eu hetholiadau nhw.

Dwi wedi bod yn chwilio am arolwg barn mwy diweddar, ond bydd rhaid inni fodloni ar yr un ddaeth mâs ddechrau’r mis, oedd yn dangos y gallai’r cenedlaetholwyr, PNV (Plaid Genedlaethol Basg, de-canol) ac EH-Bildu (clymblaid, chwith) ennill dwy ran o dair o’r seddi. Dyna ni, felly? Na. Yn ôl y sôn fe fyddai’n anodd iawn i PNV glymbleidio gydag EH-Bildu, a hynny nid yn unig oherwydd athroniaeth economaidd dra gwahanol.

Beth yw beirniadaeth fwyaf Bildu ar y PNV? Nad ydyn nhw ddim wir eisiau bod yn Wlad y Basg annibynnol, dim ond cael rhyw dipyn o newid ar y perthynas gyda Sbaen. Fod eu harweinydd yn gallu ynganu’r gair ‘annibyniaeth’ y tu fewn i ffiniau Euskadi, ond nid pan fydd yn siarad â gweinidogion llywodraeth Rajoy. Mae cymhariaeth bosib fan hyn gyda gogledd Iwerddon, os rhown ni’r PNV yn lle SDLP (cyfansoddiadol erioed) ac EH-Bildu yn lle Sinn Fein (wedi ei geni o’r mudiadau radical). Ond mae’r broses heddwch yng Ngwlad y Basg yn fwy diweddar na gogledd Iwerddon, a dyw e ddim yn edrych fel petai’r ymddiriedaeth angenrheidiol rhwng y ddwy garfan wedi datblygu eto.

Dydd Sadwrn 13 Hydref fydd yr amser i wylio. Bydd gan EH-Bildu ‘weithgaredd mawr’ yn Barakaldo ger Bilbo, lle maen nhw’n disgwyl miloedd i droi mâs o blaid  annibyniaeth, yr un diwrnod ag y bydd y prif weinidog Rajoy yn ymweld ag Euskadi i gefnogi ymgeisydd lleol y PP.

Gwefan dda i’r rhai sydd yn hoffi dilyn arolygon barn Sbaen: electrometro


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: