Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 1, 2012

Etholiadau Galicia: Llygredd

Prif bwnc yr etholiadau yn Galicia? Yr economi. Ond y cysgod sy’n hongian dros y cwbl yw’r llygredd sydd wedi ei datgelu ym mhob ran o’r gymuned ac ym mhob plaid. Bydd etholiad y gallegos yr un diwrnod ag un Gwlad y Basg; ond dyna’r unig beth maen nhw’n rhannu.

Y PP sy’n rheoli yn Galicia, lle mae’r BNG, y bloc cenedlaethol, wedi gweld ei bleidleisiau’n lleihau dros y blynyddoedd diwethaf. Ac mae’r PP yn gwario’n hael yno: ddeuddydd yn ôl daeth addewid o ddwy draffordd newydd, ar ben yr AVE (y trên cyflym iawn) sydd wedi llyncu miliynau o euros yn barod. Yn ôl arolwg barn braidd yn od a gyhoeddwyd ddoe, ‘mae dwy ran o dair o etholwyr Galicia yn credu y bydd y PP yn ennill eto’. Doedd yr arolwg ddim yn gofyn i bobl sut yr oedden nhw’n bersonol yn mynd i bleidleisio.

Nôl at y llygredd. Y pethau arferol: cynghorwyr, swyddogion cynghorau, a dynion busnes yn trefnu pethau er eu budd eu hunain, boed yn gytundebau i roi gwaith i gwmni neilltuol neu i ganiatau datblygiad yn rhywle. Datblygiad o 3000 o dai mewn un enghraifft! Yn ôl La Voz de Galicia   mae dros 150 o wleidyddion wedi eu cyhuddo mewn 34 o achosion gwahanol hyd yn hyn. Mae’r peth wedi bod yn rhemp.

A beth fydd adwaith yr etholwyr? Does neb yn rhoi llawer o siawns i’r blaid newydd rhanbarthol, ond beth fydd yn ddiddorol fydd gweld faint o bobl sy’n pleidleisio o gwbl.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: