Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 2, 2012

Yr Hen Ffordd o Bobi

Dyma gofnod yr oeddwn wedi bwriadau ei gyhoeddi pan gawsom ni helynt y llongau. Mae cyfaill (a chymydog) a fu unwaith yn bobydd ei hunan ond sydd yn awr yn rhedeg cwmni, wedi adeiladu ffwrn frics y tu fâs i’w dŷ. A chawsom ni wahoddiad i fod yno i weld y bara cyntaf yn cael ei bobi ynddo – ac i’w flasu.

Peth eithaf cyffredin yw cael parrilla neu chimenea yn yr ardd – fel barbiciw mawr crand. Ond doeddwn i erioed wedi gweld un gyda ffwrn yn rhan o’r adeiladwaith. Daeth y brics i gyd o hen dŷ oedd wedi cael ei ddymchwel, ac mae’r llawr mewnol wedi ei wneud o halen a gwydr wedi’i falu.

Mae’r tân yn cael ei gynnau y tu fewn i’r ffwrn, ac yn cynhesu’r brics yn y welydd a’r to. Cyn dodi’r toes i fewn i’w grasu, rhaid tynnu’r lludw a gweddillion y brigau. Brigau yw’r gorau, mae’n debyg, er mwyn cyrraedd tymheredd uchel yn glou; bydd y brics wedyn yn cadw’r gwres yn hir. Yn yr Eidal, yn ôl cyfeilles, maen nhw’n defnyddio brigau’r gwinllan wedi’u tocio.

A dyma’r toes ar ei ffordd i’r gwres. Daeth y rhofiau (o bren y ffawydd) o hen bopty, ond roedden nhw braidd yn llydan ar gyfer drws y ffwrn: doedd hi ddim yn hawdd cael y torthau i gyd i fewn yn dwt ac yn gyflym. Roedd ein cyfaill wedi gwneud y toes gyda hanner can gwenith a hanner blawd escanda, math o wenith a fu unwaith yn gyffredin iawn. Mae’n isel ei gluten, yn tyfu’n dda mewn ardaloedd mynyddig a heb fod angen gwrtaith. Mae José yn gobeithio hau cae ohono’r flwyddyn nesaf.

A tric bach net i’r pobwyr: wrth roi’r toes o’r neilltu i’r burum eplesu, dod dipyn bach mewn gwydried o ddŵr. Bydd yn suddo i’r gwaelod, a phan fydd yn codi i’r wyneb bydd y toes yn barod. Wel wyddwn i ddim amdano!   Roedd y bara pan ddaeth e mâs yn hyfryd: mor hyfryd fel nad oes yr un llun gyda fi i ddangos. Rhaid aros tan y tro nesaf.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: