Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 3, 2012

O’r Gegin: Ratatouille

Mae ffrwyth ein gwaith (a’r tywydd) yn y lluarth yn cyrraedd y gegin bob dydd. Toreithiog yw’r unig air amdani. A phan fydd gyda ti holl cynhwysion ratatouille am ddim (ar wahan i’r olew), mae’n bryd paratoi digon ohono i’w fwyta ac i’w rewi.

Dyma nhw felly, y cynhwysion: wynwns, garlleg, aubergines, pupurod coch a gwyrdd, corbwmpen, tomatos – hyd yn oed hadau coriander – i gyd wedi tyfu fan hyn. Nawr efallai dy fod ti’n meddwl bod yr wynwns yn edrych yn fach a’r corbwmpen yn fawr, ond mae ‘na reswm am hynny. Dyw wynwns bach ddim yn cadw cystal â’r rhai mawr, felly rhaid defnyddio nhw gyntaf; ac mae corbwmpen fawr (ond heb dyfu’n bwmpen!) yn cadw’i siâp yn well wrth ei choginio.

Paratoi: tynnu croen y tomatos, torri’r wynwns a’r garlleg yn fân, tynnu hadau’r pupurod a’u torri’n ddarnau bach, felly hefyd y gorbwmpen a’r aubergines.

Coginio: olew olewydd (tua 40ml) i’r sosban fawr drwm. Wynwns i fewn gyntaf, yn dawel bach, i gymryd tipyn o liw. Wedyn garlleg, wedyn aubergine. Pan fydd rheiny wedi meddalu, ychwanegu’r pupur a’r gorbwmpen. 10 munud arall, ac i fewn â’r tomatos a’r hadau coriander wedi’u malu. Halen a phupur os bydd angen. Hanner awr arall a bydd yn edrych rhywbeth fel hyn ac yn flasus iawn:

O lyfr hanesyddol Elizabeth David, ‘French Provincial Cooking’, y dysgais i wneud hwn; mae hi’n sôn am halltu’r aubergine a’r gorbwmpen ar ôl eu torri, er mwyn cael gwared ar unrhyw flas chwerw. Ond yn wir dwi ddim wedi blasu chwerwder ar y llysiau yma ers blynyddoedd lawer, felly rwy’n cymryd bod mathau newydd o’r ddau wedi ein rhyddhau ni o’r gwaith hwnnw.

Mae plat tebyg iawn yn Sbaen o’r enw pisto, sydd yn cael ei goginio ychydig yn llai – tua 15 munud unwaith mae popeth yn y sosban.

Advertisements

Responses

  1. Diolch am y rysait, triais i wneud ratatouille i’r disgyblion yn yr ysgol bythefnos nol (wythnos bwyta’n iach a meddwl on i byddai rhywbeth Ewropeaidd/Ffrengig yn newid byd iddyn nhw yn lle’r reis a’r nwdls arferol). Tria i eto gyda dy rysait di yn y dyfodol agos.

    • Pob hwyl gyda’r ratatouille (bron yn odli)

      • Ga i ddod draw am swper!

      • unrhyw bryd! Ond pryd yr hydref yw ratatouille yn bennaf felly well iti frysio.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: