Mae hanes Sbaen yn ystod y ganrif ddiwethaf wedi bod yn un gadwyn o wrthod, a gwrthod eto, gan yr Eglwys Gatholig, bob tro mae pobl yn ceisio datblygu ffyrdd newydd o drefnu cymdeithas. Roedd hi yn erbyn rhoi addysg i’r werin bobl, yn erbyn hawliau menywod i weithio ac i reoli faint o blant maen nhw’n cael, yn erbyn y weriniaeth, yn erbyn hawliau pobl hoyw. Ac yn awr mae hi erbyn annibyniaeth i Gatalwnia, Gwlad y Basg, nac unrhyw genedl arall o fewn gwladwriaeth Sbaen.
Mae hi, ar y llaw arall, o blaid y brenin, y fyddin a’r ‘teulu traddodiadol’, beth bynnag yw hynny.
A nawr mae cynhadledd yr esgobion wedi cyhoeddi datganiad (eu gair nhw) sydd yn dweud eu bod nhw’n poeni’n fawr am y camau tuag at annibyniaeth, ac yn honni na fyddai Catalwnia na’r un gymuned arall ‘wedi cyrraedd y ffurf sydd arnyn nhw heddiw heb y ffaith eu bod nhw’n rhan o ddiwylliant a gwleidyddiaeth Sbaen’. A heb eu henwi’n blaen maen nhw’n cyhuddo llywodraeth Catalwnia o fanteisio ar yr argyfwng economaidd i geisio denu pobl i garfan y cenedlaetholwyr – o dddefnyddio dioddefaint pobl er mwyn eu buddiannau gwleidyddol eu hunain.
Mae adwaith Catalanwyr i erthygl ar y datganiad yn La Vanguardia wedi bod yn llym: yn cynghori’r esgobion i fynd yn ôl at ofalu am eneidiau, gan ddechrau gyda’u heneidiau’u hunain.
Gadael Ymateb