Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 5, 2012

Diffyg Ymwelwyr

Rwy’n siŵr bod pawb wedi hen flino gwrando arna’i’n canmol haf hirfelyn 2012 yn Asturias, ond rwy’n mynd i flogio amdano unwaith yn rhagor, a hynny am reswm trist. Er gwaetha’r diwrnodiau ar y traeth, y tywydd mwyn ar y mynydd a’r môr tawel, daeth llai o ymwelwyr yma i wario arian.

Yn y llun uchod, aber afon Guadamía o’r mynydd. Fuom ni ddim ymhell o gwbl eleni, ond rownd ffordd hyn roedd yn amlwg bod llai o bobol ar y traeth ac yn y tai bwyta. Heddiw bu gweinidog twristiaeth Asturias yn ceisio esbonio – neu’n cynnig awgrymiadau – pam. Yr argyfwng economaidd wrth gwrs. Mae nifer yr ymwelwyr o rannau eraill o Sbaen wedi cwympo dros 50,000 – 10% i lawr ar y flwyddyn flaenorol. Ac roedd hyd yn oed y nifer o dwristiaid tramor i lawr fymryn bach.

Ond roedd e’n cynnig rheswm arall hefyd: diffyg unrhyw ymgyrch hysbysebu na chyhoeddusrwydd ddechrau’r flwyddyn. Efallai oherwydd problemau’r llywodraeth oedd gyda ni yn Asturias, oedd yn ffaelu’n deg â chael ei chyllideb drwy’r senedd. Ac yn wir pan oeddwn i yn Llundain yr wythnos ddiwethaf fe welais i bosteri mawr mewn gorsafoedd trên ar gyfer gwyliau yn Catalwnia, Andalucía, Valencia – hyd yn oed Galicia yn arddangos ei thraethau gwyn i deithwyr blinedig.

Wedi bod yn chwilio’r bore ‘ma, ond yn methu gweld dim byd ar y we yn uniongyrchol ar ba mor effeithlon yw’r ymgyrchoedd hyn. Ond yn bendant bydd Asturias yn gwario ar un flwyddyn nesaf, gan obithio bydd y miloedd yn tyrru i weld yr ardaloedd gwyllt fel y Picos de Europa:

llwybr Bulnes

digwyddiadau diwylliannol fel y fiestas, y bwyd wrth gwrs (a’r seidr!), y traethau a’r trefi glan môr. Mwy o wybodaeth ar y blog hwn, heb os.

 

 


Responses

  1. Dylet wneud dy ran tuag at yr ymgyrch drwy lobio Cymdeithas Mynydda Cymru a’u hannog i ddod ar un o’u teithiau tramor (blynyddol?) i’r ardal. Dw i’n aelod, er prin yn mynd i gerdded gyda nhw – mae’n debyg na fyddai ‘ngwarig yn gadael i mi fynd ta beth!.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: