Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 7, 2012

Protestiadau Sbaen Heddiw

Heno bydd Barça yn croesawu Real Madrid yn y Camp Nou. Disgwylir y bydd y stadiwm gyfan yn ymddangos fel senyera (baner Catalan) enfawr tu fewn a tu fâs, ac mae llawer wedi addo bloeddio ‘annibyniaeth’ ar amser penodedig ym mhob hanner. (17m14e i fewn: ym 1714 y collodd Catalwnia ei hannibyniaeth ar ddiwedd Rhyfel Olyniaeth Sbaen). Arwydd gweledol a chlywedol i filiynau o wylwyr teledu ar draws y byd. Ac yn atgofio prif weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, unwaith eto o’r problemau sy’n ei wynebu.

Eisoes heddiw mae wedi gorfod meddwl am y broblem arall wrth wylio cannoedd o filoedd yn gorymdeithio drwy 57 o ddinasoedd Sbaen yn gwrthwynebu toriadau ym meysydd iechyd, addysg a lles. Mae arolwg barn yn dangos bod bron i 80% o’r boblogaeth yn cytuno â’r bobl fu’n wrthdystio o gwmpas y senedd yn Madrid yr wythnos ddiwethaf – a bron i 60% yn cytuno bod yr heddlu wedi defnyddio gormod o drais wrth delio â nhw. Mae adwaith yr heddlu mewn sefyllfaoedd fel hyn yn cael ei gyfarwyddo gan ddirprwyaeth y llywodraeth yn y gymuned lle mae’r gwrthdystiad yn digwydd – yn yr achos hwn, Cymuned Madrid. Ac mae’r ddirprwyaeth yn union beth mae’n ymddangos: cynrychiolaeth wleidyddol y llywodraeth ganolog ym mhob un o’r cymunedau awtonomaidd, a chanddyn nhw nifer o bwerau. Rajoy sy’n eu penodi.

Ac eto mae Rajoy fel cysgod. Dyw e ddim yn arwain ymgyrch i wella pethau; mae’n gwrthod cymryd y cam olaf hyd at ofyn am arian Ewrop (o leiaf tan ar ôl yr etholiadau cymunedol); ac mae i weld yn hapusach o lawer yn mynd ar dripiau i wledydd eraill nac yn gwynebu’r bobl gartref. Dridiau’n ôl roedd e yn Malta, a digwydd cael ei weld gan grŵp o dwristiaid o Sbaen. Ar unwaith dechreuon nhw weiddi arno: ‘mae dy bobl di’n newynu, cer adre!’

Fe fydd ennill Galicia yn lleddfu’r boen i ryw raddau, ond colli wneiff ei blaid y PP yng Ngwlad y Basg yr un diwrnod – ac wrth gwrs yng Nghatalwnia fis wedyn. Faint o Sbaen fydd ar ôl wedyn iddo fod yn brif weinidog arni?

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: