Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 9, 2012

Diwedd Rhan 1

Yfory byddaf yn cyhoeddi’r milfed gofnod ar y blog hwn. Ac o hyn ymlaen, fy mwriad yw peidio ag ysgrifennu rhywbeth newydd bob dydd. Mae wedi bod yn hwyl, ac yn her weithiau, ond yn awr mae arna’i eisiau profi ffyrdd eraill o gyfathrebu: efallai drwy ysgrifennu rhywbeth ar ffurf hir, efallai drwy luniau.

Byddaf yn dal i gyfrannu cofnodion i flog Asturias yn Gymraeg, a bydd y cynnwys mae’n debyg yr un mor amrywiol. Rwyf i wedi dysgu cymaint, am yr iaith ac am y straeon a’r deunydd crai yr oeddwn yn eu trin. Dysgu wrth hel straeon, dysgu wrth ysgrifennu, dysgu wrth ddarllen sylwadau pobl sydd yn aml yn gwybod llawer mwy na fi am y pwnc dan sylw.

I gwpla’r tymor, dyma lun machlud tanbaid:

Ac addewid: fe fydd mwy o newyddion am yr ardd, ac fe fydd mwy o hanesion gwleidyddol/cyfansoddiadol/economaidd y penrhyn Iberaidd. Ond nid bob dydd.


Responses

  1. Mae sgwennu rhywbet pob dydd yn dipyn o ymrwymiad ac yn gamp i fod wedi ei wireddu cyhyd. I fi, blogio ydy’r ffordd orau o gyfathrebu pethau o sylwedd, ond mae pawb yn hoffi rhywbeth gwahanol, a falle daw dilynwyr newydd drwy newydd cyfeiriad.

    Edrychaf ymlaen at Rhan 2…

    Gyda llaw, mae ychwanegiad newydd i’r casgliad o flogiau Cymraeg o Sbaen, sef Anturiaethau Guiri, sy’n addawol iawn hyd yma.

    • Diolch Rhys – am dy holl sylwadau. Mae’n gwneud y byd o wahaniaeth gwybod bod rhywun rywle yn darllen y blog! Rwyf eisoes wedi ychwanegu dolen at Anturiaethau Guiri ac yn mwynhau’r hanes – mewn rhan o Sbaen sy’n hollol wahanol i fan hyn.

  2. Diolch i ti am rhan 1: bu’n addysg i ninnau’r darllenwyr hefyd.
    Dyma edrych ymlaen at yr ail fil!

  3. Diolch Cathi edrych ymlaen at y datblygiadau nesaf.
    Arwel


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: