Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 10, 2012

Adolygiad Ffilm: Holy Motors

Es i weld y ffilm hon yn Llundain yr wythnos ddiwethaf. Roeddwn i eisoes wedi darllen un neu ddau o erthyglau amdani oedd yn ei chanmol am fod yn ‘ffilm ffilm’ h.y. yn ffilm sydd yn bod fel ffilm yn unig, nid yn adrodd hanes, nac yn ailadrodd llyfr neu ddrama. Leos Carax (ffugenw) yw’r cyfarwyddwr, a dinas Paris yw’r lleoliad.

Mae cynllun ‘digwyddiadau un diwrnod’ yn ennyn disgwyl y bydd yn arwain at rywbeth ac y byddi di’n gallu ei ddeall. Ond na, o leiaf nid yn fy achos i. Cadwyn o ddigwyddiadau, perfformiadau, sydd fan hyn, gyda’r prif gymeriad yn teithio o un i’r llall, ac yn gwneud ei goluro a’i wisgo, yng nghefn limo estynedig gwyn. Denis Lavant (y sarjant creulon yn Beau Travail) yw’r dyn, ac mae ei berfformiadau wedi eu trefnu iddo gan asiantiaeth anhysbys. O’r dechrau un, pan welwn ni fe ym mhersonoliaeth hen fenyw yn cardota ar un o bontydd Paris (a neb yn rhoi’r un dimai goch iddi), mae’n rhuthro o un i’r llall, yn arafu ac yn mynd yn henach ei olwg wrth i’r dydd/bywyd ddod i’w terfyn.

Mae’n ffilm brydferth, hyd yn oed pan fydd y perfformiadau’n cynnwys lladd a marw. Mewn un olygfa mae’n lladd ei hunan – neu ei efaill yw hwnnw? Ac mae’r dilyniant yn y fynwent yn hynod. Ac mae’n ‘ffilm ffilm’ mewn ystyr arall hefyd: yn y cyfeiriadau lu i ffilmiau eraill, mewn llun a llais. Siŵr fy mod i wedi methu eu hanner nhw. ffilm y byddwn yn mynd i weld eilwaith, yn sicr.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: