Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 22, 2012

Gwlad y Basg – a Galicia

Am unwaith mae newyddion o Wlad y Basg wedi cael rhywfaint o sylw gan gyfryngau Cymru a’r DU: pawb yn gwybod felly bod cenedlaetholwyr wedi ennill, nid yn unig mwyafrif yn senedd y Basgiaid, ond y nifer fwyaf o seddi ers i’r senedd honno gael ei sefydlu ar ôl marwolaeth yr unben Franco. Ond mae’r cenedlaetholwyr hynny wedi eu rhannu i ddwy blaid: PNV, yr hen blaid genedlaethol, adain dde-canol; ac EH Bildu, clymblaid llawer mwy diweddar sydd ar y chwith. PNV sydd â’r nifer fwyaf  (27 i 21 EH Bildu), felly nhw sydd yn y gadair wrth geisio ffurfio llywodraeth. Ac maen nhw wedi gwneud yn glir nad EH Bildu yn unig fydd yn derbyn galwadau i gyfarfod.

Dywed arweinydd y PNV, Iñigo Urkullu, taw’r argyfwng economaidd yw ei flaenoriaeth ef, o flaen statws cyfansoddiadol Gwlad y Basg. Ac fe allai hynny olygu na fydd yn gallu cydweithio mewn clymblaid gydag EH Bildu, sydd eisiau gweld gwario er mwyn sbarduno’r economi, nid toriadau. Digon posib felly y bydd y blaid genedlaethol yn dod i gytundeb gydag un o bleidiau mawr Sbaen, y PP neu’r PSOE – neu wrth gwrs yn ceisio llywodraethu fel lleiafrif a chwilio am gefnogaeth eraill fesul pwnc.

Yn Galicia, roedd y newyddion yn llawer gwell i brif weinidog Sbaen, Mariano Rajoy (PP), o leiaf ar yr olwg gyntaf. Ei blaid ef fydd yn dal i reoli yn un o’i chadarnleoedd. Ond fe gollodd hi dros 100,000 o bleidleisiau o’i gymharu â’r etholiad diwethaf – ac fe wnaeth y PSOE (Sbeinig, sosialwyr) yn drychinebus o wael, yno ac i raddau yng Ngwlad y Basg. Yn Galicia fe aeth digon o’i phleidleisiau i fudiad newydd, AEG, Alternativa Galega de Esquerdas (Chwith Amgen Galicia), i roi naw sedd iddi. Beth mae hyn yn awgrymu imi yw bod nifer fawr o bobl Galicia, fel pobl ledled Sbaen, wedi cael digon ar y toriadau a’r cyni ac yn chwilio am ddewis arall. Ond dydyn nhw ddim yn cael eu denu gan y PSOE fel y mae. Mae’r rheswm yn amlwg: does dim ysbrydoliaeth, dim gweledigaeth, i’w gweld gan arweinwyr y PSOE. Newid yr arweinydd? Efallai. Ond dwi ddim yn gallu meddwl am neb fyddai’n gwneud yn well, a dyna yw eu problem nhw. Fyddwn i ddim yn hoffi gweld yr holl beth yn mynd yn gystadleuaeth ‘bersonoliaeth’ – ond yn sicr ddigon mae angen personoliaeth yn ogystal â pholisiau a’r gallu i redeg pethau.

Mae teimlad ar led bod angen fframwaith newydd ar Sbaen, ar y wladwriaeth ac ar y gymdeithas. Mae’r cynydd yn y nifer sy’n cefnogi annibyniaeth i Gatalwnia ac i Wlad y Basg yn rhan o hynny, ac mewn mannau lle nad yw’r math yna o genedlaetholdeb yn bod, mae gofyn am, neu efallai hyd yn hyn dim ond chwilio am, newid arall yn y drefn. Mae’r tŵf yn y rhai sy’n gwrthwynebu’r frenhiniaeth a’r eglwys hefyd yn rhan o’r teimlad. Ond mae’n rhy gynnar i ddweud beth ddaw ohono.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: