Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 9, 2012

Iaith Asturias

 

 

 

Dyma’r cyfaill ddaeth i rannu hoe amser cinio gyda ni heddiw: cricedyn hirgorn gwyrdd mawr yw’r enw Cymraeg mae’n debyg. Fe gerddodd e rownd y ford, gan osgoi’r platiau gwag, fe gerddodd e lan coes y gŵr, ac ar ôl cael ei symud o’r fan honno bu’n mynydda tipyn – i ben coes brws ac yn ôl. Dwi ddim yn gwybod a oedd e’n chwilio am rywle i hala’r gaeaf yn ddiddos; efallai bydd yn ymddangos o fewn y tŷ yn y misoedd i ddod. Mae eitha tipyn ohonyn nhw o gwmpas y lle: yr un gorau a welais i oedd pan laniodd un ar lliain wen ar y lein ddillad. Roedd ei liw yn gryfach nag erioed yn erbyn y gwyn.

Yn ystod yr wythnos bûm i yn Xixón/Gijón, yn recordio sgwrs gyda Iniciativa po’l Asturianu, y corff sy’n hybu defnydd yr iaith Astwreg ac yn ceisio gwella ei statws swyddogol. Mae’r iaith yn perthyn i’r un teulu â’r rhan fwyaf o ieithoedd y penrhyn Iberaidd (popeth ond Euskera, iaith y Basgiaid) ac i rywun o dramor sydd wedi meistroli Sbaeneg nid yw’r anodd ei deall. Y peth mwyaf diddorol imi yw’r enwau ar gyfer anifeiliaid o bob math, sydd yn wahanol iawn i’r rhai Castellano (Sbaeneg swyddogol): e.e. lombriz yw mwydyn yn Sbaeneg; meruco yn Astwreg – dim byd tebyg ond eto o’r un teulu mawr.

Pwrpas y sgwrs oedd rhoi rhywfaint o wybodaeth am y sefyllfa ieithyddol yng Nghymru, a’r ymgyrchu dwys a fu dros hanner can mlynedd i gyrraedd lle rydym ni heddiw. Bydd yn ymmdangos yn y man ar wefan yr Iniciativa.

Byddwn ni’n hwylio (buaswn i’n dwli cael ysgrifennu ‘nôl i Gymru’, fel yn y gân, ond nid yw hynny’n bosib eto) o Santander bore ‘fory ar daith i ymweld â’r teulu. Gobeithio bydd y tywydd yn aros mor fwyn ag y bu heddiw.


Responses

  1. Arthygl am Astwrieg a’r Wyl Liet yn Gijon ar wefan Al Jazeera http://www.aljazeera.com/indepth/features/2012/12/2012124761595302.html

    • Diddorol! Mae Pulgar yn llygad ei le: wrth gwrs does neb yn gwrthwynebu canu a dawnsio mewn iaith leiafrifol – mae’n denu twristiaid – ond addysg a gwaith yw’r pethau pwysig.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: