Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 3, 2012

Rhifau

Rwy’n ceisio cadw golwg ar economi Sbaen yn ogystal ag arian y tŷ hwn: a heddiw daeth nifer fawr o rifau i’m cynorthwyo.

O’r diwedd mae llywodraeth Madrid wedi gofyn am swm penodol i achub y banciau a wladolwyd – €37bn. Yr un diwrnod, cyhoeddi  y bydd y cymunedau awtonomaidd yn derbyn €4bn yn llai nag yr oedden nhw wedi disgwyl ar gyfer cyllideb y flwyddyn i ddod.

Ac mae trysorlys Sbaen newydd gyfaddef taw dim ond €1.2bn – hanner yr hyn yr oedden nhw wedi gobeithio – sydd wedi dod i fewn drwy drethi fel canlyniad i’r amnesti ar gyfrifon tramor.

Yn y cyfamser, mae llywodraeth Rajoy wedi cyhoeddi na fydd pensiynau’n codi’r flwyddyn nesaf i gwrdd â gradd chwyddiant eleni.

O ie, ac mae cyn-lywydd cyflogwyr Sbaen (y corff sy’n cyfateb i’r CBI yn y DU) wedi ei gyhuddo o wynnu arian. Dwi ddim yn siŵr am y term – golchi mae’r Saeson!

Fan hyn ar arfordir Asturias, ar ôl deuddydd o law roedd hi’n heulog ac yn ddigon twym imi adael i’m gwallt i sychu yn yr haul wrth gael brecwast hwyr ar y teras. Glaw eto ‘fory!

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: