Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 7, 2013

Yng Ngwlad yr Iorddonen 1

Bydd y cofnod hwn yn crwydro’n bell o lwybrau paradwys dwyrain Asturias, achos newydd ddychwelyd yr ydym ni o Wlad yr Iorddonen. Wythnos yn unig, ond imi dyma’r gwyliau perffaith: dianc rhag y tywydd oer, profi pethau newydd, i gyd yng nghwmni pobl cyfeillgar. Y rheswm pennaf dros ddewis yr Iorddonen oedd Petra, dinas hynafol (2000 o flynyddoedd) y Nabateaid – a ches i mo’n siomi.

golwg gyntaf ar 'drysorlys' Petra

golwg gyntaf ar ‘drysorlys’ Petra

Ar ôl cerdded am 20 munud i lawr y Siq, ceunant troellog cul oedd yn f’atgoffa o geunant y Cares, (ond bod y tywodfaen yn fwy llyfn o lawer na’n calchfaen Karstaidd ni), rwyt ti’n gweld y Trysorlys. Beddrod anferth yw e, lle claddwyd un o frenhinoedd y Nabateaid, ond yn chwedloniaeth y Bedwin wedyn fe ddaeth yn guddfan i drysor. Mae olion saethu ar y welydd lle bu pobl dros y canrifoedd yn ceisio torri i fewn.

yr ogof lliwgar

yr ogof lliwgar

A dweud y gwir byddwn i wedi bodloni ar weld rhyfeddodau naturiol Petra, ond fel yn yr ogof uchod, mae natur a gwaith pobl ynghlwm yn ei gilydd. Ar un llaw, ffurf y graig wedi ei naddu gan wynt a dŵr, ac ar y llall gwaith adeiladu a cherfio’r gwareiddiadau fu’n byw yma.  Mae’r safle yn rhy fawr i’w weld mewn diwrnod; hyd yn oed mewn dau ddiwrnod, welson ni ddim ohono fe i gyd. O fan hyn roedd carafanau o gamelod yn cyrraedd dan lwythi o sbeis Arabaidd neu sidan o’r dwyrain pell. Masnachwyr oedd y bobl oedd yn byw yma, yn trefnu carafanau a hefyd yn codi trethi ar deithwyr eraill. Pwrpas y Siq a’r beddrodau celfydd mawr oedd gwneud argraff; roedd y Siq hefyd yn gwneud y ddinas yn hawdd ei hamddiffyn, achos dyna’r unig ffordd i fewn heblaw dros y mynyddoedd.

P1160204

Roedd y bobl yn byw mewn ogofau bach yn y llethrau; mae cannoedd o’r rhain i’w gweld, rhai gyda llwyfan fel sgiw garreg ar hyd y wal, eraill gyda chafn neu bowlen wedi ei balu mâs o’r garreg y tu fâs. Ond yn amlwg y llefydd cyhoeddus oedd yn bwysig: mae’r stryd Rhufeinig, y theatrau, y deml fawr, i gyd yn dystion i hynny. Tan yn ddiweddar roedd y Bedwyn yn dal i fyw yn yr ogofau: yn awr mae’r llywodraeth wedi codi tai iddyn nhw ac maen nhw’n cael eu cyflogi i edrych ar ôl y safle. Dyw ymweld â Petra ddim yn drip rhad: 55 dinar am ddeuddydd. Yn ôl y llyfr a fenthycais i gan gyfeilles, 10 mlynedd yn ôl 1 dinar oed pris mynediad. Ond fe fydd yr hyn a welais yn aros yn hir yn fy nghof.


Responses

  1. Lluniau trawiadol neu fel dwedodd Sion ‘cool’ . Codi awydd arnom fynd draw.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: