Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 18, 2013

Gorymdeithio yn y Glaw

P1140599

Fel hyn yr oedd hi llynedd. Oes, mae peth cwmwl i’w weld yn cuddio’r mynydd yn y cefndir, ond does neb yn crynu gan oerfel ac mae’r llawr yn weddol sych. Nid felly yfory, yn ôl pobl y tywydd.

Maen nhw’n darogan 3cm o law YR AWR o hanner nos tan hanner dydd. Dim ond 2cm yr awr wedyn, am weddill y diwrnod. Ac am 1 o’r gloch fe fyddwn ni’r menywod yn cerdded ar hyd stryd y pentref tan ganu – ac yn gwneud yr un peth awr yn ddiweddarach, ar ôl yr offeren. Mae’r gwisgoedd yn pwyso 8kg pan fyddan nhw’n sych, dyn a ŵyr faint fydd eu pwysau nhw a nhwythau’n wlyb stecs.

Ond na fe, fel hyn y mae. Mae’r deisen lemwn yn barod ar gyfer yr ocsiwn, cawl wedi ei baratoi inni gael rhywbeth i fwyta ar ôl yr hwyl. Bydd fiesta San Anton eleni yn un fydd yn gwneud stori dda yn y blynyddoedd i ddod, hyd yn oed os bydd hi’n debycach i benyd ar y pryd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: