Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 29, 2013

Dreigiau’n Dihuno

Fel pistyll anferth ond bod y dŵr yn codi i’r awyr….fel sŵn draig sydd wedi cael ei dihuno’n rhy gynnar….fel mŵg dwsinau o goelcerthi ar hyd y clogwyni.

Bufones de Pria

Bufones de Pria

Ie, mae bufones y clogwyni calchfaen wedi bod wrthi drwy’r wythnos. Bob dydd wrth eu clywed nhw’n rhuo rwyf i wedi rhuthro lawr i’r môr, a bob dydd maen nhw i’w gweld yn fwy na’r diwrnod cynt.

enfys y môr

enfys y môr

A sefyll yn y man iawn, roedd enfys i’w gweld yn ogystal â’r holl ryfeddodau eraill. Roedd y tywydd heddiw yn dawel, gyda dim ond awel bach o wynt o’r dwyrain. Mae’r tonnau fel y cyfryw yn cyrraedd o’r gogledd-orllewin, wedi gadael prif lif yr Iwerydd wrth i hwnnw anelu am Ynysoedd Prydain. Ond roedd y môr mor gryf, doedd dim angen gwynt i’w gwthio nhw i fewn i’r twneli cul yn y graig o dan bwysau mawr y dŵr.

Mae’r bufones yn codi i’r awyr yn ystod yr haf hefyd, ond yn anffodus alla’i ddim addo y byddet ti’n ddigon lwcus i’w gweld. Mae pobl fan hyn yn dwlu arnyn nhw; roedd dwsinau o bobl y pentref a’r dref gyfagos yn aros gyda mi yn eu gwylio nhw.

Advertisements

Responses

  1. Gwefreiddiol a dychrynllyd ‘run pryd!

  2. Syfrdanol! Lluniau gwych a thrawiadol.

    • Diolch i chi’ch dau. Maen nhw’n gallu bod yn beryglus – mae hanesion diweddar am bobl sydd wedi marw – un ohonyn nhw wrth bwyso dros y twll i geisio clywed pan fyddai’r dŵr yn dod. Fe gafodd ei godi 15m i’r awyr a’i ollwng yn ôl ar y creigiau.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: