Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 21, 2013

Tywysogion y Mynydd

Rhywbeth bach diddorol i lawer un yn hwn.

Mae cymuned Castilla La Mancha, sydd rhwng Madrid, Valencia a Córdoba,  yn berchen ar diroedd gwyllt eang ar ran ei phoblogaeth. Ac mae wedi penderfynu gwerthu 50,000ha ‘am bris y farchnad’ yn ôl grŵp sy’n gweithredu er mwyn cadw’r amgylchfyd naturiol. Dywed Ecologista en Acción fod llywodraeth PP (adain-dde, yr un sy’n llywodraethu drwy gydol Sbaen) Dolores Cospedal eisiau cael gwared ar 57 o ardaloedd ucheldir – ac i’r perwyl hynny, eu bod yn diddymu’r statws arbennig sydd gan sawl un o’r mynyddoedd fel cartref i anifeiliaid a phlanhigion prin.

Y crachach fydd yn eu prynu. Dyw’r ecolegwyr ddim yn gallu fforddio fe, a does dim caniatad i ddatblygu’r ardaloedd. Hela, felly. Ac yn aml iawn hela’r un un anifeiliaid sydd wedi cael eu gwaredu ers degawd. Ac yn ôl El Plural , nid cyfoethocion byd busnes Sbaen yw’r unig rai sydd eisoes yn mynd i Castilla La Mancha – i’w stadau preifat – i hela dros y penwythnos. Ymysg eu gwesteion fe welwyd brenin Sbaen (wel dyw hynny ddim yn syndod) – a 2 fab y tywysog Charles Windsor.

Gobaith yr ecolegwyr wrth gwrs yw y bydd tynnu sylw at y cynllun yn fodd i’w atal, neu o leiaf i’w leihau. Ond beth sydd wir angen yw i bobl leol sefyll lan ac esbonio sut maen nhw’n dal i ddefnyddio’r tiroedd cyhoeddus, boed ar gyfer da byw neu oriau hamdden.

 


Responses

  1. Blog diddorol iawn o Asturias
    Byddai’n dda cael gwybod mwy amdanoch chi yn y cylchgrawn Golwg
    Beth am gysylltu a ni?
    Diolch


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: