Arolwg a wnaed ar draws Ewrop yn awgrymu’n gryf na ddylid bwyta mwy nac ychydig iawn o ham, selsig ac yn y blaen, rhag ofn marw’n gynnar o broblemau’r galon. Mae Sbaenwyr, yn Asturias a phobman arall, yn bwyta jamón, chorizo ac embutidos bryd ar ô pryd. Ond y diwrnod o’r blaen roedd arolwg mawr arall yn dangos bod Sbaenwyr yn aros yn iach yn hŷn na neb arall yn Ewrop. Rhydd i bawb i ddewis ei arolwg!
Bydd gweithwyr Palas y Zarzuela, pencadlys teulu brenhinol Sbaen, yn mynd ar streic am y tro cyntaf erioed ddiwedd y mis. Streic deuddydd fydd e, i dynnu sylw at doriadau yn eu cyflogau a gweithygu eu hamodau gwaith. Ar yr un pryd mae mab-yng-nghyfraith y brenin o flaen y llys ar gyhuddiadau o lygredd ariannol. Mae gwefan y Borboniaid (y teulu brenhinol) wedi dileu pob mymryn o drywydd ohono oddi ar ei thudalennau.
Mae pawb yn gwybod am berygl plastig – bagiau, rhwydi – i fywyd gwyllt. Ond dyma’r enghraifft fwyaf a welais i erioed: morfil sberm ifanc, 10m o hyd, wedi ei ganfod yn gelain ar draeth yn ne Sbaen. O agor yr anifail, cael bod 59 darn o blastig, yn pwyso bron i 18k, wedi eu llyncu ganddo. Roedd un o’i stumogau (mae ganddyn nhw dri) wedi ffrwydro. O ble y daeth? Darnau o dŷ ‘gwydr’ oedden nhw. Ymysg y cynnwys, 2 bot blodau a chwistrellydd. Y cwbl wedi ei chwythu i’r môr gan y gwynt – neu o fwriad. Does neb yn gwybod, ond mae arfordir Andalucia yn frith o dai gwydr plastig. Cofia’r morfil druan y tro nesaf byddi di’n gweld bag plastig ar draeth neu ar fynydd. Mae’r stori gyfan fan hyn yn Sbaeneg.
Hanesyn bach hapusach i orffen: mae nifer yr eirth yng ngorllewin Asturias wedi treblu mewn 20 mlynedd. Dim ond 180 ydyn nhw nawr, ond mae’r gwaharddiad ar eu hela nhw wedi gwneud y byd o wahaniaeth.
Gadael Ymateb