Beth ddylai’r oedran ymddeol fod? Neu a oes angen oedran ymddeol o gwbl – pam na allwn ni adael i bobl i fynd ymlaen i weithio cyhyd â maen nhw eisiau?
Stori newyddion anhygoel yn El País sy’n gwneud imi ofyn y cwestiynau. Yn Sbaen fel yng Nghymru mae cyfundrefn o gyfreithwyr ‘ar ddyletswydd’ sy’n cael eu talu gan y wladwriaeth i gynrychioli pobl sydd wedi eu cyhuddo o droseddau. Yn Madrid yn ddiweddar daeth dau lanc â’u pennau wedi siafo, hogiau’r mudiad ffasistaidd, o flaen y llys ar gyhuddiad o ymosod ar hen grwydryn oedd yn cysgu yn y stryd. Roedd y cyfreithiwr ar ddyletswydd oedd yn siarad ar eu rhan dros ei 90 oed!
Ac yn fuan fe ddaeth yn amlwg nad oedd e wedi symud gyda datblygiadau cymdeithasol y 60 mlynedd diwethaf : roedd yn ceisio dadlau i ddechrau nad ffasistiaid oedd y ddau, e.e., am nad oedden nhw’n gwisgo crysau duon. Bu’n rhaid i’r barnwr esbonio iddo nad felly oedd neo-Nazis heddiw yn gwisgo. Ond wedyn fe aeth ymhellach: gan ddadlau fod bod yn grwydryn heb gartref sefydlog gyfystyr â bod yn ‘gancr ar gymdeithas’ ‘nad yw’n perthyn i ddynolryw’. Roedd yn dyheu, meddai, am y ddeddf a barhaodd tan amser yr unben Franco oedd yn cosbi ‘crwydriaid a dihirod’ am fod yn ddi-waith a digartref.
Mae awdurdodau llysoedd Madrid wedi datgan y byddan nhw’n gweithredu yn erbyn y cyfreithiwr hynafol; ond does gyda nhw ddim hawl i’w wahardd oherwydd oedran. Does dim cyfyngiad ar oedran ar gyfer y swydd hon.
Dwi ddim yn gwybod beth yw hanes y gŵr: oes wir angen yr arian arno? Ond yn gyffredinol byddwn yn meddwl ei bod hi’n hen bryd iddo roi’r perwig naill ochr a gwneud lle i rywun iau.
Wedi penderfynu ymddeol Pasg a gwneud ll i rhywun ararll!
By: Arwel on Mawrth 19, 2013
at 8:20 pm
da iawn Arwel! Disgwyl dy weld ti yma eto rywbryd.
By: cathasturias on Mawrth 19, 2013
at 8:23 pm