Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 21, 2013

Llwgr Llwgr Llwgr

Weithiau, heddiw er enghraifft, nid wyf yn deall sut y mae’r blaid sy’n llywodraethu yn Sbaen, y PP (adain-dde), yn gallu cario ymlaen.

Mae cwympo mâs mawr o fewn yr arweinwyr ynglŷn ag arian (€230,000) a dalwyd i gyn-ŵr y gweinidog iechyd wrth gael ei wared e o swydd gyda’r blaid.  Mae’r gweinidog hithau’n gwadu ei bod yn gwybod am unrhyw gysylltiadau oedd rhyngddo ag achos Gurtel (gw. isod.)

Mae achos y cyn-drysorydd –  sy’n cael ei gyhuddo o redeg cyfundrefn ariannol cudd ac o dalu sobres (mae’n golygu amlenni, ond yn yr achos yma, taliadau cyfrinachol) i uchel swyddogion ac aelodau seneddol – ar fin dod i’r llys.

Ac yn awr mae’r unig achos o lygredd lle’r oedd bois y PP wedi dod mâs yn ddieuog yn ôl y rheithgor yn cael ei ail-agor gan y Goruchaf Lys. Dyma achos Gurtel, yn Valencia, achos yn ymwneud â datblygiadau dinesig, contractau adeiladu, miliynau o ewros, llwgrwobrwyo – ac anrhegion o suits crand i gyn-arweinydd y llywodraeth rhanbarthol.

Ac nac anghofier achos mab-yng-nghyfraith brenin Sbaen, wedi ei gyhuddo yntau o lygredd ariannol. Cyn-lywydd PP ynysoedd y Baleares eisoes wedi ei garcharu, aros i weld beth fydd yn digwydd gydag Urdangarin.

Er mwyn tegwch, dylwn i nodi bod achosion o lygredd yn erbyn aelodau blaenllaw o’r PSOE, yr wrthblaid, yn rhai o’r ardaloedd lle maen nhw’n rheoli – ond a dweud y gwir,  achosion pitw yw’r rheiny o’u cymharu ag anawsterau’r PP.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: