Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 25, 2013

Gobaith y Gwanwyn

Wedi bod yn y tŷ ag annwyd ers wythnos, a’r tywydd mor ddiflas nad oedd dim ots gen i. Nid yr eira mae rhannau o Gymru wedi cael, ond glaw, glaw, glaw. Sy’n golygu wrth gwrs bod pob pot blodyn a hadfwrdd yn llawn dop gydag eginlysiau ddylai fod mâs yn y pridd, ond bod hwnnw’n rhy drwm a rhy oer iddyn nhw.

Ond ddoe fe gododd yn ddiwrnod braf felly codais innau hefyd a mynd tua’r clogwyni. Buan y daeth yn amlwg bod ambell i blanhigyn yn herio’r tywydd:

coed ceirios

coed ceirios

Ceirios sur yw ffrwyth y rhain, ac fel arfer maen nhw i gyd yn blodeuo erbyn hyn. Ond eleni dyma’r unig rai hyn yn hyn, mewn man wedi ei gysgodi o bob ochr ond y de.

P1160513

A dyma blodau’r drain yn disgleirio yn erbyn y deiliach – ond mae dail eleni yn dechrau ymddangos, fel y gwelir wrth eu lliw goleuach.

P1160510

Ac wrth ochr y ffordd, yng nghanol y borfa a’r mieri, mae fioledau cyntaf y gwanwyn wedi codi’u pennau.

Heddiw yn anffodus mae’r glaw wedi dychwelyd. Mae’r tywydd drwg nid yn unig yn becso ffermwyr a garddwyr ond hefyd pawb o fewn y diwydiant twristaidd, achos mae’r wythnos hon, yr wythnos santaidd cyn y Pasg, yn ail i Awst fel cyfnod gwyliau.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: