Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 31, 2013

O’r Ardd: Haul!

Mae’n hanner awr wedi wyth ac yn dal yn olau dydd. Daeth cymylau i guddio’r haul ar ôl diwrnod arbennig o dda yn yr ardd. Hynny yw, am y tro cyntaf mewn misoedd roeddem ni wedi gallu gweithio drwy’r dydd yn yr ardd. Rhy dwym oedd hi weithiau a dweud y gwir. Chwynnu, chwynnu. chwynnu. A lladd gwair. A pharatoi ar gyfer codi gwely newydd mewn teras ar waelod y creigiau ar y ffordd i fewn.

A gorfod stopo bob hyn a hyn i edrych ar y blodau.

capan cornicyll

capan cornicyll

Mae’r planhigyn hwn wedi goroesi popeth y gaeaf yma ac yn dal i flodeuo uwchben ffordd y pererinion. Nid bod llawer o’r rheiny wedi pasio heddiw – pawb gartref yn cael cinio gyda’r teulu.

troed y golomen

troed y golomen

Hwyr mae troed y golomen (y math brodorol) eleni, ond mae hwn mewn man cysgodol iawn rhwng y graig a’r tŷ gwydr ac yn hapus ei fyd.

P1160534

A’r hen lithodora ddibynadwy, ffefryn y gwenyn pan na fydd dim byd arall yn blodeuo. Lwcus ydym ni sy’n gallu gadael y pethau gwyllt i gael eu safle heb amharu ar yr ardd. Ond pan fyddan nhw’n ymddangos yng nghanol y lleuarth, mater arall yw hi. Ein lle ni yw hwnnw, a ni sy’n dewis pwy sy’n cael byw yno.

Advertisements

Responses

  1. Lluniau hyfryd. Ffwrdd i Kalymnos am bythefnos o ddringo. Siawns bydd amser hefyd i edrych ar flodau’r gwanwyn yr Aegean.

  2. Capan cornicyll heb hyd yn oed egino yma! Ydi o’n ymddwyn fel planhigyn parhaol yn Asturias, neu ti sydd wedi plannu’n gynnar?

    • Os wyt ti’n cael y lle iawn iddo, planhigyn parhaol yw e – ond mae wedi methu mewn sawl lle a dybiwn i oedd yn iawn. Lle mae e nawr mae yng ngwyneb yr haul, ar ben rhiw fach, ac yn cael mynd lle mynno.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: