Dyddiau du yn economaidd. A dyw’r tywydd ddim yn help chwaith, yn oerach nag y dylai fod ar arfordir Asturias ym mis Ebrill ac yn bwrw glaw fel petai dim modd peidio. Mae meddwl pobl yn mynd tuag at ‘cadw’r hyn sydd gen i’ , bod yn ddiogel, yn glyd os yn bosib. Does dim llawer o awydd mentro nac yn y byd ariannol nac yn y maes gwleidyddol/cymdeithasol.
Yn erbyn y cefndir hwn, mae sawl gwlad yn Ewrop, Groeg ar ben y rhestr, wedi gweld ffyniant mudiadau sy’n perthyn i’r adain dde eithafol. Atsain o’r 1930au ar ffurf y ganrif newydd. Yn Sbaen hefyd mae’r atseiniau i’w clywed. Nid yn gymaint gan yr ieuenctid ar y stryd, er bod rheiny’n dal i droi mâs yn eu miloedd bob hyn a hyn, ond o enau arweinwyr y blaid lywodraethol.
Tywysgoes – merch y brenin ei hunan – wedi ei galw o flaen llys fel person drwgdybiedig? A hynny mewn achos o lygredd ariannol lle mae ei gŵr hi yn brif ddiffynnydd? O, medd llefarydd ar ran y llywodraeth PP yn Madrid ‘ fydd hyn yn dwyn anfantais ar enw brand Sbaen yn rhyngwladol’. Hyd yma nid ydym yn gwybod beth fydd y dywysoges yn dweud, ond mae’r ebyst sydd wedi eu rhyddhau gan gyn-bartner ei gŵr yn awgrymu’r gryf nad dim ond enw ar dop y dudalen oedd Cristina de Borbon y Grecia – er ei fod wrth gwrs yn enw oedd yn werth ei gael yno. Oni ddylai llefarydd swyddogol ddweud rhywbeth fel ‘rhaid inni aros i weld beth fydd yn digwydd yn y llys’?
Na. Greddf sydd yma. Diogelu’r goron, diogelu’r wladwriaeth, diogelu’r canol, yn erbyn pob bygythiad. Yr un fu’r ymateb i gynllun refferendwm Catalwnia: ei fod yn anghyfreithlon a bron yn bechod meddwl am adael y Sbaen sydd ohoni. Yr un natur canolog, unllygeidiog – a llym – oedd gan y Falange, gan Franco a’i ‘fudiad’ a hefyd gan yr eglwys o’r 30au hyd at farwolaeth yr unben. Y gobaith – y gred – oedd bod Sbaen wedi newid llawer ac yn dal i ddatblygu’n wlad fwy goddefgar, yn fwy amryliw. Ond mae beth sy’n digwydd heddiw yn adrodd hanes arall. A dyma beth sy’n bwyaig: mae’r bobl sydd wrth y llyw heddiw, pobl yn eu 50au/60au, yn cofio’n iawn sut beth oedd Sbaen cyn 1975. Ni allant fyth ddweud ‘wyddom ni ddim.’
Enghraifft arall heddiw. Mae lluniau wedi ymddangos yn y wasg o lywydd cymuned Galicia ar iot gyda dyn sydd erbyn hyn wedi ei garcharu am smyglo tybaco a chyffuriau. Mae’r lluniau’n hen – o gyfnod cyn i Alberto Feijoo ddod yn wleidydd (PP) adnabyddus. Dyw hi ddim yn stori ‘fawr’, a go brin y bydd yn cael unrhyw effaith ar y ffordd mae pobl Galicia yn pleidleisio. Ond ymateb y PP yw awgrymu y dylid ffrwyno’r wasg a’i gwahardd rhag gyhoeddi’r fath luniau. Rheolaeth gadarn o’r canol. Un peth sy’n fy ngwneud i’n siŵr na all y rheolaeth hon reoli yw presenoldeb y we, a’r holl bobl sy’n barod i’w defnyddio i ledaenu gwybodaeth. Cwestiwn arall yw sut mae rhywun yn gwybod a yw pethau’n wir neu beidio.
Gadael Ymateb