Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 6, 2013

Dyheu am y Gwanwyn

Mae’r blodau gwyllt, fel finnau yn ffaelu aros munud mwy. Eisiau’r haul, eisiau mwy o oleuni arnom ni. Fore heddiw roedd hi’n bwrw mor galed fel nad oedd hi ddim yn bosib gweld pen yr ardd yn glir. Y prynhawn yma, oherwydd ein bod ni ar y galchfaen, roedd popeth wedi sychu’n ddigon i gerdded ar y tir, a siawns imi grwydro mannau gwyllt yr ardd i weld beth oedd yn digwydd.

clychau'r gog Sbaenaidd

clychau’r gog Sbaenaidd

Am unwaith lliw’r camera sy’n driw: mae cyffyrddiad porffor i’r rhain, ac maen nhw’n fyrrach na rhai Cymru. Maen nhw’n dod yn ôl bob blwyddyn, ond byth yn lledu o’r banc caregog o dan y coed cyll.

P1160542

A beth am y cyfuniad bach hwn? Glesyn y coed (yn tyfu mewn poced yn y graig), blodyn y taranau, ac, am y tro cyntaf eleni, helianthemum.

Gobaith y bydd hi wedi sychu digon erbyn yfory inni wneud rhywbeth heblaw chwynnu.

 

 


Responses

  1. Cyfuniad hyfryd, a’r boced yn y graig yn atgoffa rhywun o gyfoeth blodau gwyllt palmentydd calchfaen fel y rheiny ar y Gogarth yn Llandudno.
    Diolch Cath gyda llaw, am y mensh caredig yn Golwg yr wythnos hon; syrpreis neis pan welis i o heddiw!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: