Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 18, 2013

Marw’r Fflam

Mieres. Tref fwyaf cymoedd glofaol Asturias. Man cychwyn chwyldro’r gweithwyr ym 1934. Neithiwr roedd y tyrfaoedd ar y stryd eto – 30,000 o bobl yn ôl y trefnwyr –  ond y tro hwn i geisio amddiffyn diwydiant sydd wedi crebachu gyda’r blynyddoedd. Llai na 2000 o lowyr lle bu 60,000.

I fod yn onest, roedd gan yr hen ganeri hwnnw mwy o obaith. Mae llywodraeth Sbaen (PP, adain dde) wedi gwneud yn hollol eglur na fyddan nhw hyd yn oed yn talu’r cymorthdal llai a gytunwyd o dan gynlluniau Brwsel. Echdoe, cawsom wybod na fyddan nhw’n caniatau i lowyr ymddeol yn gynnar: rhaid iddyn nhw aros i’r pwll ei hunan gau. Canlyniad hynny? Wel, dyw’r cwmniau preifat sy’n rhedeg nifer o’r pyllau ddim wedi bod yn talu cyflogau eu gweithwyr ers misoedd. Mae 250 o lowyr y glo caled yn y gorllewin newydd eu towlu ar y clwt heb hyd yn oed yr arian hynny, heb sôn am unrhyw daliad arall dyledwy.  Mae’r cwmniau preifat hefyd wedi bod yn gwerthu miliynau o dunnelli o lo oedd i fod yn cael ei gadw ar gyfer problemau brys, ac yn awr yn gorfod esbonio lle mae’r arian.

Sumbol yw’r pyllau, a hyd yn oed y glowyr, erbyn heddiw. Mae 25,000 mâs o waith yn y cymoedd yn barod, chwarter cyfanswm diweithdra Asturias, felly bydd 2000 yn rhagor ddim yn gwneud fawr o wahaniaeth. Ond maen nhw’n sumbol nerthol, llewyrchus, nid yn unig yma ond drwy gydol Sbaen. Glowyr Asturias oedd yn arwain, yn ceisio newid y byd er gwell i’r werin bobl, ym 1934 ac eto ym 1962 yn ystod unbeniaeth Franco.

I ble’r aeth yr ysbryd, y syniadau, y dadlau am egwyddorion a moddion? A drôdd llwyddiant y wladwriaeth ddemocrataidd-sosialaidd yn y pendraw yn grasfa i’r gweithwyr? Nid yn Asturias yn unig, nid yn Sbaen, ond bobman yng ngorllewin Ewrop. Pawb yn troi’n ddefnyddwyr yn hytrach na gwneuthurwyr.  Dechrau o’r dechrau fydd rhaid. O’r ‘gwaelod’, o’r stryd, i gynnau fflam eto yn llygaid y diobaith.

Mae gyda fi erthygl yn y rhifyn cyfredol o Planet ar hanes glowyr Asturias.

Advertisements

Responses

  1. Yr un stori ym mhedwar ban y byd ‘datblygedig’ …digalon.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: