Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 28, 2013

Blagur a Mwy

lluniau heddiw wedi eu hysbrydoli gan flog hyfryd Ar Asgwrn y Graig.

blagur coeden afal Enlli

blagur coeden afal Enlli

Wnaethom ni brynu’r goeden fach hon ddechrau’r flwyddyn, a dyma hi’n dangos ei blodau am y tro cyntaf. Os oedd hi’n gallu byw’n hapus ar ynys Enlli fe ddylai arfordir dwyrain Asturias fod yn nefoedd iddi. Edrych ymlaen yn fawr ar flasu’r ffrwyth: yn ôl y gwerthwr mae ‘arogl lemwn’ arnyn nhw.

gellyg Conference bychain

gellyg Conference bychain

Mae’r coed gellyg fel arfer ymhell o flaen yr afalau: Conference yw’r babis bach yma. Bydd rhaid towlu rhan helaeth mewn mis os na fydd y gwynt wedi gwneud y gwaith drosom ni. Fydd y goeden fyth yn gallu dod â phob un i aeddfedrwydd.

P1160610

A beth yw’r rhain? Am y tro cyntaf yn ein gardd ni, blagur ar yr aguacatero – y goeden afocado –  a dyfodd yn y domen gompost. Mae’r goeden ei hunan tua 3m o uchder, ond maen nhw’n gallu tyfu llawer mwy na hynny. Tybed a gawn ni ffrwyth eleni?


Responses

  1. Diolch Cath. Gallaf gadarnhau bod blas arbennig ar yr afalau. Bu bron i ni golli’r goeden Enlli y llynedd mewn gwynt, ond mae hi dal yn fyw trwy lwc! Afal arall dwi’n hoff iawn ohono ydi croen mochyn, afal russet sydd ar gael gan yr un feithrinfa a’r afal Enlli.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: