Wedi bod ar wibdaith o gwmpas Cymru yn ymweld â’r teulu a chyfeillion. Ac ar y ffordd, treulio prynhawn yn yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne ger Caerfyrddin. Roeddwn i heb fod yno ers blynyddoedd – yn fuan ar ôl iddi gael ei hagor. Am ddatblygiad!
Mae’r tŷ gwydr enfawr yn awr yn gartref i blanhigion aeddfed, a choed, ac roedd llawer ohonyn nhw yn eu blodau neu’n llawn blagur.
Dyma’r protea, blodyn cenedlaethol De’r Affrig – yr unig un o’i fath oedd wedi agor, felly bydd y gweddill yn aros pwy bynnag sy’n mynd yno o fewn y tair wythnos nesaf. Iphoto wrth gwrs am imi roi enw ar yr ‘wyneb’ a welai yn y llun!
Yn yr Ynysoedd Dedwydd y tŷf yr echium: doeddwn i erioed wedi gweld un mor goch o’r blaen. Roedd hwn tua 1.5m o uchder, ond eraill yn cyrraedd 2m. Wnes i lwyddo i dyfu un rai blynyddoedd yn ôl, ond dim ond wrth gael y planhigyn yn flwydd oed gan gyfaill.
Dydyn nhw ddim yn blodeuo tan yr ail flwyddyn, ac mae amheuaeth gyda fi a fyddai planhigyn o sychder yr ynysoedd wedi goroesi gaeaf gwlyb Asturias. Ond fel sy’n amlwg doedd ganddo ddim problem tyfu’n llysieuol, ac efallai rhof i siawns arall iddyn nhw.
Rwyf i dal heb sôn am yr ardd gyda’r wal-ddwbl, sydd hefyd yn llawn pethau gwerth eu gweld. Ond gardd i’r haf a’r hydref yw honno’n fwy na dim, heb fod ar ei gorau ddechrau mis Mai oer.
Gadael Ymateb