Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 14, 2013

Pobl v Bleiddiaid

Mae’r blaidd yn ôl yn Ribadesella.

P1150026

Dyma’r mynyddoedd y tu cefn i’n tŷ ni, yn gwisgo het niwl. Edrych tua’r de mae’r llun, o gyfeiriad yr arfordir.  Yr ochr arall, mae nifer o gymoedd cul heulog lle mae rhai o’r cymdogion yn dal i fynd ag anifeiliaid i bori dros yr haf.

P1150471

A dyna lle mae’r bleiddiaid. Dros y misoedd diwethaf, dywed ffermwyr bod degau o ddefaid ac ŵyn bach wedi eu lladd. Mae sierras y rhan hon o Asturias yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin, ac wrth fynd tua’r de mae pob un yn codi’n uwch na’r un flaenorol. Yn gopa ar y cyfan mae’r Picos de Europa, parc cenedlaethol gyda chopaon dros 2500m. Yn y fan honno, wrth gwrs, mae anifeiliaid gwyllt fel y blaidd a’r baedd gwyllt yn cael llonydd, er bod y ffermwyr yn dal i gwyno am y diford y maen nhw’n ei wneud a’r amser hir mae’r awdurdodau’n cymryd i dalu iawndal. Ac mae wedi bod yn llwydiant aruthrol o safbwynt yr anifeiliaid.

Pan brynsom ni’r tŷ i lawr ar yr arfordir 11 mlynedd yn ôl doedd dim sôn am fleiddiaid. Hanesion efallai eu bod nhw’n dod i lawr rywfaint yn ystod y gaeaf – ond nid eu bod yn gwneud cartrefi mewn ardaloedd ehangach. Ac er bod mynd mawr ar saethu’r baedd gwyllt, roedd pawb yn dweud na fydden nhw byth yn croesi’r draffordd. (Doeddwn i ddim yn cydfynd â hyn: roedd digon o afonydd a lonydd bach yn dod o dan y draffordd, dim rhaid i deulu bach y baedd fynd i unrhyw berygl!)

Nawr, mae’r baedd gwyllt a’i dylwyth estynedig yn broblem o fewn pentrefi, ac anodd iawn yw eu cadw nhw mâs o’r lleuarth. Dydyn nhw ddim yn bwyta’r llysiau, o na. Dim ond eu palu nhw lan fel JCBs gwyllt wrth chwilio am fwydod. Ac eleni mae’r blaidd hefyd wedi dod yn agos iawn. Yn ôl y cyfryngau, roedd un o’r ymosodiadau diweddaraf ar ddefaid o fewn corral (corlan), a hynny o fewn 100m o gartrefi pentref Santianes, sydd reit ar yr heol fawr rhwng Ribadesella ac Arriondas. Dywed y ffermwyr nad oes dim byd tebyg wedi digwydd mewn 30 mlynedd.

Pobl sydd wedi ei gwneud yn haws i’r anifeiliaid luosogi a lledu, a hynny mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, drwy eu diogelu nhw rhag y drylliau a’r gwenwyn, ac yn ail, drwy roi’r gorau i ffermio tiroedd helaeth. Mae’n mynd yn anoddach fyth wneud bywoliaeth wrth gadw anifeiliaid ar y tir uchel, ac mae swyddi eraill fyddai wedi cadw teulu yn mynd yn brinnach. Canlyniad, mwy o bobl ifainc yn gadael. Am byth.

Dyna’r sefyllfa. Nawr rhaid i bobl ddod at ei gilydd i geisio penderfynu sut y gall ffermwyr a naturiaethwyr fod yn fodlon. Neu a fydd rhaid i drigolion pentrefi’r mynyddoedd gymryd eu tro unwaith eto yn y cabanau bach, yn udo i ddenu’r bleiddiaid,  fel bod y cymdogion yn gallu’u lladd nhw.

caban denu bleiddiaid, Cain

caban denu bleiddiaid, Cain

Advertisements

Responses

  1. Diddorol iawn Cathi pawb ffordd hyn yn cwyno am lwynogod!

    • Wedi bod yn darllen mwy am fleiddiaid – cofnod arall cyn bo hir


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: