Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 25, 2013

Afon Guadamía: Tymor Newydd

A’r glaw mawr wedi peidio o’r diwedd, ddoe aethom ni am dro i lawr llwybr yr afon tua’r môr. Roedd ôl y llifogydd i’w gweld mewn mannau lle’r oedd y dŵr wedierydu o dan y glannau, ond y llwybr ei hun yn dal yn ddiogel. Roeddem ni’n cerdded gyda chyfeillion sy’n byw bywyd dinas, a heb yr arfer o gerdded i unman. Canlyniad hynny oedd ein bod yn mynd yn fwy araf na’r arfer, ac felly wedi gweld pethau mewn ffordd wahanol.

Pontia daplidice

Pontia daplidice

Y gloyn byw hwn er enghraifft. O edrych ar y we rwy’n ffyddiog taw’r gwyn smotiog yw e, ac mae’n werth clico ar y llun i weld y creadur yn fanwl achos mae’r smotiau â chyffyrddiadau euraidd.

Er ei bod yn afon fer iawn, mae’r Guadamía yn newid cymeriad droeon. Roedd pŵer y dŵr i’w weld yn glir yn y rhaeadr yma:

P1160669

a dim ond pum munud yn ddiweddarach roedd hi’n gorwedd yn llonydd:

P1160671

Roedd y gwynt yn gryf o’r gogledd-ddwyrain, ond yng ngwaelod y dyffryn roeddem ni wedi ein llwyr ddiogelu rhagddo ac yn gallu cerdded yn llewys ein crysau – hyfrydwch.


Responses

  1. Ydi’r dwr yn llonyddu oherwydd ei fod yn treiddio mewn i’r calchfaen?

  2. Mae’n debyg bod hynny’n rhan o’r rheswm, ond hefyd mae lled a dyfnder yr afon yn amrywio – fel petai hi’n gorffwys am seibiant cyn mynd ar garlam unwaith eto tua’r môr.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: